Fe fydd deddfwriaeth newydd i sicrhau nad yw gweithwyr ar y cyflogau isaf yn gorfod talu treth yn cael ei chynnwys yn Araith y Frenhines heddiw wrth iddi agor y tymor seneddol yn ffurfiol.

Ond mae adroddiadau y bydd cynlluniau dadleuol i gael gwared a’r Ddeddf Hawliau Dynol yn cael eu gohirio oherwydd gwrthwynebiad llym.

Yn ôl y Daily Telegraph, mae disgwyl i gynlluniau i sgrapio’r Ddeddf Hawliau Dynol a chyflwyno Bil Hawliau Prydeinig gael eu cynnwys yn yr araith, ond ni fydd deddfwriaeth lawn yn cael ei chyflwyno tan y flwyddyn nesaf.

Fe fydd Bil yn amlinellu cynlluniau ar gyfer cynnal refferendwm ynglŷn ag aelodaeth Prydain o’r Undeb Ewropeaidd erbyn 2017 yn ganolog yn yr araith.

Mae disgwyl i ddiwygiadau i’r ddeddfwriaeth yn ymwneud a chynnal streiciau, a rhagor o doriadau lles hefyd gael eu cynnwys yn yr araith.

Mae David Cameron wedi dweud na fydd yn “gwastraffu eiliad” cyn gwireddu addewidion ei faniffesto wrth i’r Llywodraeth Geidwadol baratoi i ddatgelu cynnwys Araith y Frenhines tua 11.30 y bore ma.