San Steffan
Bydd protest yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd heddiw i leisio gwrthwynebiad i bolisïau’r Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan.

Cyngor Undebau Llafur Caerdydd sydd wedi galw’r brotest ar yr un diwrnod ag araith y Frenhines.

Mae ymgyrchwyr yn pryderu am doriadau i wariant lles, diddymu’r Ddeddf Hawliau Dynol a’r posibilrwydd o gyfyngiadau ychwanegol ar undebau llafur cyn iddyn nhw allu mynd ar streic.

Bydd aelodau o undebau Unite, Unsain, UCU, yr RMT, PCS ac eraill yn mynychu’r brotest gyda’u baneri, yn ogystal ag ymgyrchwyr cymunedol y tu allan i Orsaf  Drenau Ganolog Caerdydd am 5:30 prynhawn ma.

‘Ymosodiadau dieflig’

Mae’r brotest yn un o nifer fydd yn cael eu cynnal ar draws y DU heddiw gan gynnwys un tu allan i Downing Street ar ôl i’r Llywodraeth newydd gyhoeddi ei rhaglen ddeddfwriaethol dros y pum mlynedd nesaf.

Meddai trefnwyr y brotest yng Nghaerdydd fod Araith y Frenhines yn debygol o “gynnwys manylion yr ymosodiadau mwyaf dieflig ar hawliau undebau llafur yr ydym wedi ei weld yn y DU ers degawdau.”

Mewn llythyr agored dywedodd yr ymgyrchwyr: “Mae’r Torïaid yn bwriadu tynhau’r crocbren a gafodd ei glymu gan Thatcher bron i dri degawd yn ôl pan gyflwynodd y llywodraeth rai o’r deddfau gwrth undebau llafur mwyaf cyfyngedig yn Ewrop. Nid ydym yn mynd i adael iddyn nhw wneud hyn.

“Gall ein hymgyrchoedd drechu’r Llywodraeth hon a’r ymosodiadau ar ein hundebau a’n swyddi, cyflog a gwasanaethau.”