Chuka Umunna
Mae Chuka Umunna wedi datgan ei gefnogaeth i Liz Kendall yn y ras am arweinyddiaeth y Blaid Lafur.
Dywedodd Chuka Umunna, llefarydd busnes y blaid, mai Liz Kendall oedd yr ymgeisydd a allai symud y blaid ymlaen.
Roedd Chuka Umunna wedi penderfynu ymgeisio am yr arweinyddiaeth ei hun, ond tynnodd ei enw nol yn gynharach y mis hwn gan nodi nad oedd yn barod am y “pwysau ychwanegol sy’n dod law yn llaw â swydd yr arweinydd”.
Fe wnaeth ei sylw am Liz Kendall yn y New Statesman. Yn yr erthygl, sydd wedi cael ei sgwennu ar y cyd â’i gyn dîm ymgyrchu, dywedodd fod yn rhaid i’r arweinydd nesaf gael y weledigaeth gywir ac meddai ei fod yn credu mai Liz Kendall sydd wedi gofyn y “cwestiynau anodd”.
Dywedodd hefyd ei bod hi wedi bod yn “ddewr wrth herio doethineb confensiynol.”
Y tri AS arall sydd wedi cyhoeddi eu bod am ymgeisio am yr arweinyddiaeth yw Andy Burnham, Yvette Cooper, a Mary Creagh.