Syr Mike Rake, llywydd y CBI
Mae llywydd y CBI yn annog busnesau i ddechrau cyflwyno’u dadleuon o blaid aros yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd (UE).

Fe fydd Syr Mike Rake yn dadlau mai nawr yw’r amser i ddiwygio’r UE wrth i’r Llywodraeth newydd fwrw mlaen gyda chynlluniau i gynnal refferendwm ar aelodaeth Prydain o’r Undeb.

Fe fydd yn dweud wrth aelodau’r CBI yn Llundain ei bod yn bryd i fusnesau leisio eu barn ar y mater, mewn iaith y gall pobl ei deall.

Mae’n bwysig sicrhau, meddai, y byddai’r DU nid yn unig yn goroesi, ond yn ffynnu, y tu allan i’r UE, ac nid oes unrhyw un wedi cynnig “opsiynau realistig” hyd yn hyn.

“Ni fydd y diwygiad yn digwydd dros nos, ond drwy weithio gyda’n cynghreiriaid ar agenda uchelgeisiol ond cyraeddadwy, fe allwn ei wneud yn realiti,” meddai.

“Felly, rydym yn cefnogi bwriad y Prif Weinidog i wneud yr UE yn fwy cystadleuol ac fe all y Llywodraeth newydd ddibynnu ar gefnogaeth busnesau i wneud i hynny ddigwydd.”