Nigel Farage
Mae AS Ewropeaidd UKIP, Patrick O’Flynn, wedi ymddiheuro i Nigel Farage am ei alw’n berson “croendenau ac ymosodol” cyn ymddiswyddo fel llefarydd economaidd y blaid.

Dywedodd y cyn-newyddiadurwr ei fod yn edifar gwneud y sylwadau am Nigel Farage mewn cyfweliad, wedi i’r arweinydd ddweud y byddai’n ymddiswyddo os nad oedd yn ennill sedd yn Ne Thanet.

Cafodd ymddiswyddiad Nigel Farage ei wrthod gan aelodau UKIP wedi iddo golli’r sedd i’r Ceidwadwyr.

“Buaswn yn hoffi ymddiheuro i’m cyd-gynghorwyr am wneud sylwadau yn gyhoeddus ynglŷn â’r digwyddiadau yn sgil yr etholiad,” meddai Patrick O’Flynn.

“Ac yn fwy na hynny, hoffwn ymddiheuro i Nigel Farrage am ddefnyddio’r geiriau ‘pigog ac ymosodol’.”

“Fe ddyliwn i wybod yn well na neb sut y byddai defnyddio’r fath eiriau yn dod drosodd fel gweithred annheg ac angharedig.”