Cheryl James
Mae teulu milwr ifanc o Langollen fu farw ym Marics Deepcut yn Surrey wedi annog y crwner i ganiatáu i’w chorff gael ei godi.

Mae teulu’r Preifat Cheryl James wedi mynegi eu siom am yr oedi cyn cynnal cwest i’w marwolaeth.

Roedd Cheryl James, 18 oed, yn un o bedwar milwr fu farw yn y barics rhwng 1995 a 2002 ynghanol honiadau o fwlio a cham-drin.

Bu farw Sean Benton, James Collinson a Geoff Gray ar ôl cael anafiadau a achoswyd gan fwledi.

Y llynedd roedd yr Uchel Lys wedi gorchymyn cynnal cwest newydd i farwolaeth Cheryl James ar ôl diddymu rheithfarn agored yn y cwest gwreiddiol i’w marwolaeth ym mis Rhagfyr 1995.

Mewn gwrandawiad yn Llys y Crwner yn Woking heddiw, dywedodd y crwner Brian Barker QC y byddai’n aros am adroddiad meddygol cyn penderfynu a fyddai’n cymryd y “cam anodd ac anarferol” i godi corff y milwr.

Dywedodd Alison Foster QC wrth y crwner, ar ran y teulu, eu bod yn “siomedig iawn” gyda’r oedi a’i fod yn “angenrheidiol codi’r corff er mwyn cynnal ymchwiliad llawn.”

Dywedodd y crwner y byddai’r cwest yn ystyried a oedd yna ddiffygion gyda pholisïau’r barics o ran ymddygiad rhywiol, goruchwylio merched ifanc, cyffuriau, alcohol a lletyau.

Mae disgwyl i’r cwest llawn gael ei gynnal ar 1 Chwefror gyda gwrandawiad arall wedi’i bennu ar 10 Medi.