Mae pedwar dyn o Gaerdydd wedi bod o flaen Llys Ynadon Casnewydd i wynebu cyhuddiadau o herwgipio ac achosi niwed corfforol.

Fe gawson nhw eu harestio fel rhan o ymgyrch Heddlu Gwent fu’n ymchwilio i achosion o gaethwasiaeth yn yr ardal.

Mae’r pedwar dyn, sy’n byw yn ardal Tredelerch, wedi’u rhyddhau ar fechnïaeth a byddan nhw’n ymddangos yn Llys y Goron Casnewydd ar 4 Mehefin.

Bydd Patrick Joseph Connors, 58, yn wynebu dau gyhuddiad o herwgipio a phedwar cyhuddiad o ymosod.

Bydd Patrick Dean Connors, 38, a Lee Carbis, 33, yn wynebu cyhuddiad o herwgipio a William Connors, 35, o achosi niwed corfforol.