John Bercow
Mae John Bercow wedi cael ei ail-benodi’n Llefarydd Tŷ’r Cyffredin.

Dywedodd AS Buckingham, a oedd yn ffigwr dadleuol yn ystod y Senedd ddiwethaf, ei fod yn awyddus i barhau a’i swydd ers chwe blynedd “am gyfnod ychydig hirach” pan ofynnwyd iddo a fyddai’n hoffi parhau gyda’i swydd.

“Mae wedi bod yn fraint cael gwasanaethu fel Llefarydd am bron i chwe blynedd ac fe fyddai’n fraint cael parhau am gyfnod ychydig hirach os yw fy nghydweithwyr yn cytuno.

“Fe fyddaf yn ymdrechu i sicrhau bod y Tŷ yn parhau wrth galon ei system ddemocrataidd.”

Ychwanegodd yr hoffai gael ei gofio fel “pencampwr y meincwyr cefn.”

Cafodd John Bercow groeso yn ôl gan y Prif Weinidog David Cameron.