Llys y Goron Caerdydd
Mae dynes sy’n cael ei chyhuddo o dorri gwddf plentyn saith oed a phlentyn 16 mis oed arall gyda chyllell, cyn defnyddio’r arf i anafu ei hun, wedi gwadu ceisio eu llofruddio.

Roedd Sadie Jenkins, 28, o Gasnewydd yn honni mai’r lleisiau yn ei phen a ddywedodd wrthi am ymosod ar y plant.

Yn yr achos yn Llys y Goron Caerdydd, clywodd y rheithgor bod Sadie Jenkins yn cymryd cyffuriau amffetamin yn rheolaidd a’i bod yn honni ei bod yn dioddef o salwch meddwl yn sgil hyn.

Cafodd y plant – yr ieuengaf yn 16 mis oed – eu canfod gydag anafiadau i’w gyddfau mewn tŷ ar stad Salisbury Close yng Nghasnewydd fis Mai 2014.

Ymddygiad

Dywedodd Paul Lewis QC  ar ran yr erlyniad bod Sadie Jenkins yn cyfaddef cyflawni’r ymosodiad ond y tebyg yw y bydd ei chyfreithwyr yn ceisio dadlau “nad oedd hi’n gwybod ei fod yn anghywir – er ei bod yn gwybod beth yr oedd hi’n ei wneud.”

Fe glywodd y llys bod ei hymddygiad wedi ymddangos yn “normal” ychydig oriau cyn yr ymosodiad ar 7 Mai’r llynedd.

Clywodd y llys bod Jenkins wedi cael ei chadw o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl ond ei bod wedi cael ei rhyddhau o uned ddiogel a’i holi gan yr heddlu dri mis yn ddiweddarach.

Mae’r achos yn parhau.