Chuka Umunna
Daeth cadarnhad bod un o’r ymgeiswyr oedd yn y ras am arweinyddiaeth y Blaid Lafur wedi tynnu ei enw yn ôl.
Dywedodd Chuka Umunna ei fod wedi cael llond bol o’r “pwysau ychwanegol sy’n dod law yn llaw â swydd yr arweinydd”.
Ychwanegodd: “Fe all rhywun ddychmygu beth mae sefyll am swydd yr arweinydd yn ei olygu, y galw a’r sylw, ond does dim yn cymharu â’r effaith gan mae’n ei gael ar fywyd rhywun.”
Mae penderfyniad Chuka Umunna i dynnu nôl yn gadael Liz Kendall, Yvette Cooper, Andy Burnham a Mary Caerog ar ôl yn y ras.
Rheolau’r ras
Mae’n rhaid i ymgeiswyr gael cefnogaeth 34 o’u cyd-weithwyr – 15% o ASau’r blaid – erbyn 15 Mehefin os ydyn nhw am gyfwlyno cais am yr arweinyddaieth. Bydd y bleidlais derfynnol i ddewis yr arweinydd yn cael ei chynnal ym mis Medi.