David Cameron
Mae Prif Weinidog Prydain, David Cameron wedi cyhoeddi mesurau dadleuol i fynd i’r afael â radicaliaeth a brawychiaeth.
Mae’r cynlluniau’n cynnwys Bil Gwrth-eithafiaeth fydd yn cael ei amlinellu yn araith y Frenhines yn ddiweddarach y mis yma.
Ond mae ymgyrchwyr tros ryddid barn wedi mynegi pryderon am gynnwys y ddeddfwriaeth newydd.
Yn ôl y cynlluniau, bydd gwaharddiad ar sefydliadau eithafol nad ydyn nhw’n cydymffurfio â chyfreithiau presennol, a chyfyngiadau ar unigolion a sefydliadau sy’n ceisio radicaleiddio pobol ifanc.
Bydd hawl gan yr awdurdodau hefyd i gau adeiladau sy’n gartref i sefydliadau eithafol.
Wrth gyhoeddi’r cynlluniau, dywedodd Cameron fod rhaid herio “ideoleg eithafol Islamaidd gwenwynig”.
Cafodd gweinidogion glywed y cynlluniau yn ystod cyfarfod o’r Cyngor Diogelwch Cenedlaethol heddiw.
‘Creu tensiynau’
Mae rhai o aelodau’r Cyngor yn gwrthwynebu’r cynlluniau, gan gynnwys y Democrat Rhyddfrydol Tim Farron, sydd wedi cyhuddo’r Ceidwadwyr o gynyddu’r bygythiad o eithafiaeth drwy “chwarae gwleidyddiaeth ar sail rhaniad” ac o greu tensiynau newydd.
Ychwanegodd fod y mesurau newydd “mor awdurdodol ac Orwellaidd” â chynllun cardiau adnabod y Blaid Lafur.
Mae nifer o ymgyrchwyr wedi beirniadu’r cynlluniau hefyd, gan godi cwestiynau ynghylch pwy fydd yn cael eu targedu gan y ddeddfwriaeth.
‘Rhy oddefgar’
Cyn y cyhoeddiad heddiw, dywedodd David Cameron: “Ers rhy hir, rydyn ni wedi bod yn gymdeithas oddefgar yn dawel fach, gan ddweud wrth ein trigolion: cyhyd â’ch bod yn ufuddhau i’r gyfraith, byddwn yn rhoi llonydd i chi.”
Yn gynharach eleni, dywedodd yr Ysgrifennydd Cartref, Theresa May y byddai’r llywodraeth yn herio pob math o eithafwyr.
Mae’r ddeddfwriaeth newydd yn adeiladu ar fesurau diogelwch a gafodd eu cyflwyno’r llynedd, gan gynnwys atal unigolion oedd yn mynd dramor at y Wladwriaeth Islamaidd (IS) rhag dychwelyd i wledydd Prydain.
Mae disgwyl i’r cynlluniau hefyd atgyfodi mesurau dadleuol sy’n cyfyngu ar ddefnydd o wefannau cymdeithasol.