Mae cyrff dau ddyn wedi cael eu darganfod mewn dŵr ger hen chwarel yn Swydd Norfolk.

Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i hen chwarel Bawsey Pits ddoe yn dilyn adroddiadau fod dyn wedi mynd i drafferthion yn y dŵr. Ar ôl iddyn nhw gyrraedd y safle, death adroddiadau fod dyn arall ar goll ac ymhen ychydig fe gafwyd hyd i’r ddau yn farw.

Roedd yr heddlu, y gwasanaeth ambiwlans, y gwasanaeth tân ac aelodau o’r Awyrlu Brenhinol yn rhan o’r ymgyrch i chwilio am y cyrff.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Swydd Norfolk: “Cafodd y cyrff eu darganfod yn y dŵr ac mae ymchwiliadau yn parhau i amgylchiadau eu marwolaeth.”

Mae’r heddlu yn galw ar bobl i gadw draw o’r safle lle mae nofio wedi ei wahardd ond mae llawer yn anwybyddu’r rhybuddion.

Mae rhai adroddiadau yn dweud fod un o’r dynion yn ei bedwardegau tra bod y llall yn ei arddegau. Does dim mwy o fanylion ar hyn o bryd.