Etholiad Cyffredinol 2024 – y pleidleisio

Golwg yn ôl ar ddigwyddiadau diwrnod yr etholiad

Croeso i Blog Byw Etholiad Cyffredinol 2024 golwg360.

Byddwn ni’n dod â’r diweddaraf i chi cyn ac yn ystod yr etholiad dydd Iau (Gorffennaf 4), gan gynnwys canlyniadau, y diweddaraf o rai o’r canolfannau cyfrif, a’r holl ymateb o bob cwr o Gymru a thu hwnt.

Gydol nos Iau ac oriau mân fore Gwener, bydd criw o ohebwyr, golygyddion, colofnwyr a sylwebwyr yn dod â phigion o bob cyfeiriad ynghyd yma, ac yn cadw golwg ar y sefyllfa yng Nghymru a thu hwnt yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Yn ogystal â golygyddion a gohebwyr golwg360, bydd yr academyddion Dr Huw Lewis (Prifysgol Aberystwyth) a Dr Edward Jones (Prifysgol Bangor), colofnwyr golwg360 Huw Prys Jones a Dylan Wyn Williams, sylfaenydd Golwg Dylan Iorwerth, y sylwebydd Elin Roberts, y colofnydd ac awdur Jason Morgan, a mwy yn cynnig dadansoddiadau a sylwebaeth hefyd. A bydd ambell un mewn etholaethau ledled Cymru wrth i ni agosáu at gyhoeddi’r canlyniadau.

08:43

Tra ein bod ni’n aros i ddod â llun i chi o etholaeth Rhun ap Iorwerth, lle mae Llinos Medi yn sefyll, dyma ddadansoddiad ein gohebydd gwleidyddol o’r ynys (tu ôl y wal dalu).

Etholiad ’24: Ynys Môn

Rhys Owen

Un o seddi mwyaf diddorol Cymru, lle mae disgwyl ras agos iawn rhwng Plaid Cymru, Llafur a’r Ceidwadwyr

08:35

Dyma oedd gan arweinydd Plaid Cymru i’w ddweud fore heddiw:

08:31

Mae Vaughan Gething, Prif Weinidog Cymru ac arweinydd Llafur Cymru, wedi bod allan yng Nghaerdydd gyda’i dîm yn gynnar fore heddiw (Llun: X Vaughan Gething).

Mae disgwyl i Rhun ap Iorwerth fwrw ei bleidlais ym Môn unrhyw funud nawr.

07:30

Bore da!

Heddiw (dydd Iau, Gorffennaf 4) yw’r diwrnod mawr.

Mae gorsafoedd pleidleisio ledled y wlad bellach ar agor, a byddan nhw’n cau am 10:00 heno. Yn fuan ar ôl hynny, bydd y pleidleisiau’n dechrau cael eu cyfri, ac fe gawn ni wybod yn y man pwy sydd wedi ennill.

Arhoswch gyda ni!

17:12

Wrth i’r ymgyrchu ddod i ben, dyma ddadansoddi rywfaint ar ymgyrchoedd y pleidiau dros y chwe wythnos ddiwethaf.

Y Blaid Lafur

Mae Keir Starmer wedi gwneud ambell daith i Gymru, yn aml yn cael ei weld efo Vaughan Gething, hyd yn oed ar ôl iddo golli pleidlais diffyg hyder yn y Senedd.

Gan Lafur, mae’r neges wedi bod yn glir – pleidleisiwch dros Lafur a gewch chi fwy o gydweithio, ac o ganlyniad i hynny, well bargen i Gymru….

Er bod maniffesto Llafur yn un mawr, does yna ddim llawer o addewidion cryf o ran polisïau cadarn. Felly pe baen nhw’n fuddugol, bydd rhaid i bethau ddod yn gliriach ar ôl i’r cyllid brys gael ei gyhoeddi cyn yr haf.

Y Ceidwadwyr

Efo’r Ceidwadwyr, mae’n teimlo fel eu bod nhw wedi gorfod oedi a meddwl am syniadau ffres i drio newid meddylfryd.

Cofiwch yn ôl i gychwyn yr ymgyrch pan oedd Rishi Sunak yn pwysleisio’r clo triphlyg ar bensiynau i ddenu pleidlais yr henoed. Yna, cafwyd polisi ar wasanaeth cenedlaethol, rhywbeth gafodd ei gyfathrebu yn wael iawn gyda nifer yn ei ddehongli fel ryw fath o call to arms.

Erbyn hyn, mae’n teimlo fel pe bai’r bws Ceidwadol wedi dod i stop ar y llinell derfyn, gyda’r Gweinidog Mel Stride yn cyfaddef bod posibilrwydd mawr o gael mwyafrif enfawr i’r Blaid Lafur.

Plaid Cymru

Ar gychwyn yr ymgyrch, roedd yn ymddangos fel pe bai’r arweinydd Rhun ap Iorwerth yn cyfaddef y bydd yr etholiad yn un “heriol” i’r Blaid, yn enwedig gan ystyried bod newid y ffiniau yn gostwng nifer y seddi o 40 i 32 yng Nghymru.

Ond gyda sŵn mawr am HS2 a chyfleoedd i Rhun ap Iorwerth fynd ar ddadleuon cenedlaethol, mae’n edrych fel pe bai’r Blaid mewn cyflwr gwell na’r disgwyl yn mynd i mewn i’r etholiad fory.

Ennill yn Ynys Môn a Chaerfyrddin, a bydd y gwynt yn hwyliau Plaid Cymru wrth edrych tuag at etholiad y Senedd yn 2026.

Darllenwch y darn safbwynt cyfan, gan gynnwys ymdrin ag ymgyrchoedd Reform a’r Democratiaid Rhyddfrydol, yma:

Golwg Rhys ar Wleidyddiaeth: Ymgyrchu yn dod i ben, ond a fydd newid i Gymru?  

Rhys Owen

“Mae cwestiynau amlwg dal i fod am sut y bydd y llywodraeth nesaf yn mynd i’r afael â’r heriau sy’n wynebu’r Deyrnas Unedig”

13:36

Cofiwch eich ID i gael lleisio barn

Am y tro cyntaf mewn etholiad cyffredinol, bydd angen i bleidleiswyr ddangos ID ffotograffig cyn cael eu papur pleidleisio. Bydd yr etholiad yn dilyn yr un drefn â’r etholiad Comisiynwyr yr Heddlu fis Mai.

Mae’r mathau o ID sy’n cael eu derbyn yn cynnwys:

– Pasbort

– Trwydded yrru

– Rhai cardiau teithio rhatach megis pas bws person hŷn

– Y Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr.

Bydd pleidleiswyr yn gallu defnyddio ID sydd wedi dirwyn i ben os gellir eu hadnabod o’r ffotograff o hyd.

Fe fydd gorsafoedd pleidleisio yn agor am 7 bore fory, ac ar agor tan 10yh.

“Cyn i chi fynd i’r orsaf bleidleisio, gwnewch yn siŵr bod gennych yr ID sydd ei angen arnoch i bleidleisio. Bydd angen i chi ddangos y fersiwn wreiddiol, ni fydd copïau na lluniau yn cael eu derbyn,” meddai Rhydian Thomas, Pennaeth y Comisiwn Etholiadol, Cymru.

“Os na fyddwch yn cofio dod â’ch ID gyda chi i’r orsaf bleidleisio, gallwch ddychwelyd yn ddiweddarach yn y diwrnod gyda’ch ID.

“Bydd unrhyw un sy’n sefyll mewn ciw am 10pm yn gallu bwrw ei bleidlais.”

12:36

Waeth i ba blaid y byddan nhw’n perthyn, bydd gan Gymru lai o Aelodau Seneddol yn San Steffan ar ôl yr etholiad fory. 

Mae’r newid ffiniau yn golygu mai 32 o etholaethau fydd yng Nghymru, yn hytrach na 40. 

Oni bai am Ynys Môn, sydd gan statws arbennig gan ei bod hi’n ynys, mae newidiadau i ffiniau bob un o’r etholaethau eraill.

Cewch wybod mwy am sut mae pob un o’r etholau hynny wedi newid drwy fynd i’r rhestr ar waelod y dudalen Etholiad Cyffredinol 2024.

Wrth glicio ar y gwahanol seddi, gallwch weld rhestr o bob ymgeisydd ym mhob etholaeth hefyd.

11:57

Vaughan Gething yn sgwrsio gyda Keir Starmer,

Mae Keir Starmer wedi dechrau ei ddiwrnod olaf o ymgyrchu yn Hendy-gwyn ar Daf yn Sir Gaerfyrddin.

Yno cafodd gwmni Vaughan Gething, Prif Weinidog Cymru, a Martha O’Neil, ymgeisydd y Blaid Lafur yn yr etholaeth.

Yr amcan fu’r tri siaradwr yn ei bwysleisio oedd cydweithio rhwng y Senedd a San Steffan er lles pobol yng Nghymru. Mae’r neges yma wedi cael ei hailadrodd dro ar ôl tro yn ystod yr ymgyrch.

Bydd llawer o sylw yn cael ei roi i’r addewid i wella’r berthynas o’r cychwyn cyntaf pe bai Keir Starmer yn fuddugol yn ei ymgyrch i fod yn Brif Weinidog ddydd Gwener.

Mae’r lleoliad yn un arwyddocaol hefyd, yn etholaeth Caerfyrddin, lle mae’r arolygon barn yn gweld brwydr agos iawn rhwng Martha O’Neil ac Ann Davies o Blaid Cymru. Bydd Llafur yn awyddus i drechu Plaid Cymru, yn ogystal â’r Ceidwadwyr, yr etholiad hwn, wrth iddyn nhw geisio ailsefydlu’r naratif fod y Blaid Lafur yng Nghymru yn brwydro i fod yn unedig, yn enwedig ar ôl problemau amlwg Vaughan Gething yn ei fisoedd cyntaf yn Brif Weinidog.

10:53

Gallai’r Ceidwadwyr golli pob sedd yng Nghymru, yn ôl yr arolwg barn diwethaf.

Mae pôl piniwn Barn Cymru yn awgrymu ei bod hi’n bosib i Lafur ennill 29 o’r 32 sedd yn y wlad, a’u bod nhw am ennill 40% o’r bleidlais dros y wlad.

Gallai hynny olygu eu bod nhw’n cipio Wrecsam, Sir Fynwy a Bro Morgannwg gan y Torïaid.

Yn ôl yr arolwg, mae’r ras am yr ail safle o ran cyfran y bleidlais yn dynn rhwng y Ceidwadwyr a Reform, gyda’r ddwy blaid ar 16% o’r gefnogaeth yn ôl y sampl diweddaraf o’r boblogaeth.

Mae pedair sedd yn rhy agos i’w darogan, medd y pôl piniwn gan YouGov ar ran ITV Cymru a Phrifysgol Caerdydd. Y seddi hynny yw Ynys Môn a Chaerfyrddin, lle mae hi’n debygol o fod yn dynn rhwng Llafur a Phlaid Cymru; Aberhonddu, Maesyfed a Chwm Tawe rhwng y Democratiaid Rhyddfrydol a’r Ceidwadwyr; a Maldwyn a Glyndŵr rhwng Llafur a’r Ceidwadwyr.

Dangosa’r pôl piniwn fod 14% o’r rhai gafodd eu holi am bleidleisio dros Blaid Cymru, ac mae’r data’n awgrymu mai nhw fydd yn ennill yng Ngheredigion Preseli a Dwyfor Meirionnydd.

09:15

Bore da ar y diwrnod cyn yr etholiad!

Beth am ddechrau drwy edrych ar y sefyllfa yng Nghymru wedi’r Etholiad Cyffredinol diwethaf yn 2019.

Mae newid ffiniau etholaethau a chwtogi nifer Aelodau Seneddol Cymru o 40 i 32 yn golygu y bydd hi’n anoddach cymharu, ond fel hyn roedd sefyllfa’r pleidiau yn San Steffan wedi’r etholiad diwethaf:

Llafur: 22 sedd

Y Ceidwadwyr: 14 sedd

Plaid Cymru: 4 sedd