Etholiad Senedd 2021 – dydd Gwener

Canlyniadau Etholiad Senedd 2021, a’r holl ymateb

Garmon Ceiro
gan Garmon Ceiro
Adeilad y Senedd gyda logo Golwg360

Blog byw Etholiad Senedd 2021 gyda fi, Garmon Ceiro, yng nghwmni Gohebydd Senedd Golwg, Iolo Jones, colofnydd Golwg, Jason Morgan, gohebydd golwg360 Cadi Dafydd… gyda chyfraniadau gan y sylwebyddion gwleidyddol Dafydd Trystan a Huw Prys Jones, Dr Huw Lewis o Brifysgol Aberystwyth, a chyd-sefydlydd Golwg, Dylan Iorwerth.

Dilynwch flog byw dydd Sadwrn am y diweddaraf.

21:59

Ambell un ar Twitter nawr yn holi a oes diben trafod clymblaid bellach – gan fod canlyniadau Llafur cystal y gallan nhw Lywodraethu heb glymbleidio’n ffurfiol…

21:53

Diolchodd Mark Drakeford i’r pleidiau “prif ffrwd” am y ffordd y gwnaethon nhw ymgyrchu yng Ngorllewin Caerdydd… tybed pwy oedd yn cael ei hepgor o’r diolch hwnnw, felly? Hmm.

21:53

O bob proffil etholaeth wnes i sgwennu dros gyfnod yr ymgyrch etholiadol, yng Ngorllewin Caerdydd yr oedd y drwgdeimlad rhwng ymgeiswyr ar ei waethaf. Mi allwch chi ddarllen y darn hwnnw isod…

Etholiad 2021: Gorllewin Caerdydd

Iolo Jones

Mae yna gnwd swmpus o ymgeiswyr yn ceisio disodli’r Prif Weinidog

21:50

Ymgais ofer i ddisodli’r Prif Weinidog

Wel am ganlyniad diddorol yng Ngorllewin Caerdydd! Roedd hi’n hynod agos yno yn 2016, gyda Phlaid Cymru yn ail agos i Lafur (a gyda Neil McEvoy yn aelod Plaid Cymru bryd hynny).

Mae Neil (sydd bellach wedi sefydlu plaid ei hun – Propel) wedi bod yn addo ers fisoedd os nad blynyddoedd y bydd yn disodli Mark Drakeford, Arweinydd Llafur a’r Prif Weinidog.

Nid dyna ddigwyddodd.

Cynyddodd y gefnogaeth at Marky D gan gryn dipyn, daeth y Ceidwadwyr yn AIL, a daeth Propel yn bedwerydd. Am ganlyniad!

Roedd Captain Beany hefyd wedi addo cipio’r sedd rhag Lafur, a phenodi ei hun yn Arlywydd ar Gymru. Mi fethodd, ond roedd yntau’n amlwg yn hapus mai Mark enillodd yn neuadd y cownt.

21:47

Mwyafrif enfawr i Mark Drakeford yng Ngorllewin Caerdydd, yr ail fwyaf yng Nghymru ar ôl Elin Jones yng Ngheredigion. All hynny ddim cael ei weld fel llai na phleidlais o hyder cwbl ddiamheuaeth yn ei berfformiad fel Prif Weinidog dros y flwyddyn ddiwethaf a’r ffordd yr atebodd i her Covid.

Roedd ’na frwydr fach ochr ddifyr yma hefyd rhwng Plaid Cymru a phlaid Neil McEvoy, Propel, gyda Phlaid Cymru’n ei hennill yn eithaf hawdd. Fawr o syndod i bleidlais 2016 rannu rhyngddynt ond roedd McEvoy yn braf tu ôl i’w gyn-blaid, felly ymddengys nad oedd ei honiad na phleidlais bersonol iddo fo oedd y cyfan o’r canlyniad hwnnw’n gywir, a bydd yn ffarwelio â’r Senedd.

 

21:45

Mae Mark Drakeford wedi cael ei wobr am arwain trwy’r pandemig gyda chynnydd anferth yn ei bleidlais (17,665) a’i fwyafrif.

Mi fydd Plaid Cymru’n falch eu bod wedi cadw 5,897 o’u pleidlais ac wedi curo’u cyn-ymgeisydd Neil McEvoy (3,473).

Ond gyda’r blaidlais honno’n rhannu, y Ceidwadwr, Sean Driscoll, ddaeth yn ail (6,454).

21:44

Mark Drakeford yn ddiogel yng Ngorllewin Caerdydd.

21:42

Buddugoliaeth ysgubol yn ôl y disgwyl i Mark Drakeford yng Ngorllewin Caerdydd. Bydd Plaid Cymru’n hapus gyda’u pleidlais hefyd, ac yn enwedig efo’r ffaith eu bod nhw wedi cael bron i ddwywaith cymaint â Neil McEvoy

21:33

Mae yna gwestiwn mawr yn codi i Blaid Lafur Cymru rwan, yn sgil eu llwyddiant nhw a methiant Llafur yn Lloegr.

Os nad ydyn nhw’n debyg o ennill grym yn San Steffan yn y dyfodol agos, beth fydd eu hagwedd nhw at wleidyddiaeth Cymru.

Tan yn ddiweddar, roedd Mark Drakeford yn meddwl am Lafur Prydain ond, o gofio’r Alban hefyd, mae honno dan fygythiad mawr.

21:29

Wff, dyw James Evans (a gipiodd Brycheiniog a Sir Faesyfed oddi wrth y Democratiaid Rhydfrydol) ddim wedi dal ’nôl!

Yn siarad gyda Golwg fis diwetha’ wnaeth y Tori ddweud bod yntau a William Powell (ymgeisydd y melynblaid) yn ffrindiau agos! A fyddai ffrind yn dweud y fath beth!

Papur pleidleisio'n cael ei roi yn y blwch

Etholiad 2021: Brycheiniog a Sir Faesyfed

Iolo Jones

Gydag etholiad Senedd Cymru yn prysur agosáu, mae Iolo Jones wedi bod yn holi’r ymgeiswyr sydd eisiau olynu Kirsty Williams