Mae streic gan weithwyr BBC Cymru, a fyddai wedi targedu darllediadau o’r ffagl Olympaidd yn cyrraedd Cymru yfory, wedi cael ei ganslo.

Dywedodd yr undebau sy’n cynrychioli newyddiadurwyr a staff technegol y BBC, NUJ a Bectu, eu bod nhw wedi dod i gytundeb gyda’r gorfforaeth ynglŷn â ffrae am ddiswyddo aelod o’r undeb.

Roedd staff BBC Cymru wedi bwriadu cynnal streic 24 awr yfory.

Dywedodd llefarydd Bectu, Luke Crawley: “Does dim dwywaith ein bod ni wedi llwyddo i ddod i’r canlyniad yma oherwydd parodrwydd aelodau’r undeb i sefyll gyda’i gilydd i ddangos eu cefnogaeth tuag at gydweithiwr.”

Dywedodd trefnydd yr NUJ Sue Harris ei bod yn croesawu’r cytundeb rhwng yr undebau a BBC Cymru.