Mae’r heddlu wedi enwi mam a mab o Bowys fu farw mewn gwrthdrawiad rhwng eu car a thractor.
Roedd Kate Ruth Boughton, 35, a Samuel Edward Boughton, 13, o Lanandras, ar lannau Afon Llugwy, ar y ffin â Lloegr.
Mae dau blentyn arall a gafodd eu hanafu yn y gwrthdrawiad yn derbyn gofal yn Ysbyty Plant Birmingham. Mae un mewn cyflwr difrifol ond sefydlog, a’r llall mewn cyflwr sefydlog.
Digwyddodd y gwrthdrawiad ar y B4362 y tu allan i Ysgol Lucton, ger Llanllieni, yn Swydd Henffordd.
Roedd y teulu’n teithio mewn Vauxhall Corsa coch i gyfeiriad Yarpole pan wrthdarodd yn erbyn tractor John Deere gwyrdd a melyn oedd yn teithio yn y cyfeiriad arall.
Fe fu farw Samuel Edward Boughton yn y fan a’r lle, ac fe fu farw ei fam yn ddiweddarach ar ôl cael ei hedfan i’r ysbyty.
Mae Heddlu Gorllewin Mercia wedi galw ar unrhyw un welodd yr wrthdrawiad i gysylltu â nhw.