Dywed Heddlu’r De  bod gwrthdrawiad difrifol wedi digwydd tua’r gorllewin ar draffordd yr M4, rhwng cyffordd 30 a 32 bore ma.

Mae’n debyg bod y gwrthdrawiad wedi bod rhwng dau gerbyd – gan gynnwys un lori oedd yn cludo craen – tua 6.50am.

Mae Heddlu De Cymru ar y safle ac yn parhau i ymchwilio i’r gwrthdrawiad.

Maen nhw’n galw ar yrwyr i osgoi’r ardal os yn bosibl gan fod tagfeydd traffig.

Maen nhw’n ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra  i yrwyr wrth i’r ymchwiliad barhau ac yn galw ar dystion i ddod i gyswllt â nhw ar 101.

Bydd mwy o wybodaeth i ddilyn…