Sir Benfro
Mae llwybr sy’n mynd o amgylch arfordir Cymru wedi ei ddewis yn ranbarth gorau’r byd.
Yn ôl llyfr teithio’r Lonely Planet mae’r llwybr yma – sydd i fod i gael ei gwblhau’r flwyddyn nesaf er mwyn galluogi i bobl gerdded o amgylch holl arfordir Cymru – yn berffaith er mwyn gweld ein gwlad ar ei gorau.
“Mae’n beth hyfryd iawn. Pa ffordd well o wir werthfawrogi tirlun – ac enaid – cenedl?” meddai’r canllaw i deithwyr sy’n brolio Sir Benfro a Phortmeirion yng Ngwynedd.
Ac meddai Tom Hall o’r Lonely Planet: “Yn ogystal â’r gallu unigryw i fedru cerdded ar hyd yr arfordir yn ei gyfanrwydd, mae’r rhanbarth wedi dod i’r brig oherwydd ei natur wyllt, ei fôr bywiog, ei gestyll a llefydd gwych fel traeth Barrafundle a Thyddewi.
“A nawr fod Wills a Kate wedi ymgartrefu yn yr ardal mae wedi derbyn sêl bendith brenhinol hefyd.”
Ond mae peth dadlau o hyd wrth i’r prosiect i uno llwydbrau arfordir Cymru fynd yn ei flaen, gyda sipsiwn‘New Age Travellers’ yn cwyno y bydd y llwybr yn tarfu ar eu preifatrwydd.