Mae un o uchel-swyddogion Heddlu’r De wedi rhybuddio rhag twyll ariannol dros y ffôn.

Mewn neges ar Twitter, mae Rich Lewis, Dirprwy Brif Gwnstabl Heddlu’r De, yn dweud iddo ef ei hun dderbyn galwad ffôn dwyllodrus, ac mewn neges sydd wedi’i recordio, mae’n dweud iddo gael gwybod fod £600 wedi cael ei dynnu o’i gyfri banc.

Ond wedyn, mae’n dweud mai “sgam” yw’r neges, gan rybuddio pobol i fod yn wyliadwrus.

“Yn union fel ein Dirprwy Brif Gwnstabl ein hunain, gwrandewch ar eich greddf bob amser,” meddai’r heddlu wrth rannu’r neges.

“Os bydd rhywbeth yn teimlo o’i le, yna fel arfer mae’n iawn i chi ei gwestiynu.”

Cyngor pellach

Ynghlwm wrth neges yr heddlu mae cyfres o gamau er mwyn ceisio atal twyll dros y ffôn.

Mae’n dweud na fyddai banc fyth yn ffonio cwsmeriaid yn gofyn iddyn nhw am fanylion personol fel rhifau PIN na chyfrineiriau llawn.

Ddylai neb, meddai’r heddlu, glicio ar ddolenni mewn e-byst neu negeseuon testun sy’n edrych yn amheus.

Ddylai neb, chwaith, ymateb i geisiadau annisgwyl am wybodaeth a chyn rhoi gwybodaeth dros y ffôn, dylid terfynu galwadau a ffonio’r banc yn uniongyrchol.