Dyfrig Siencyn, (Llun: Plaid Cymru)
Mae grŵp Plaid Cymru Gwynedd wedi dewis cynghorydd gogledd Dolgellau, Dyfrig Siencyn, i’w harwain.

Fe gafodd ei ethol mewn cyfarfod ym Mhorthmadog ddoe (Mai 8) ac fe fydd yn cael ei enwebu ar gyfer swydd Arweinydd Cyngor Gwynedd yn ystod y cyngor llawn cyn diwedd y mis.

Mae Dyfrig Siencyn wedi bod yn Ddirprwy Arweinydd Cyngor Gwynedd ac fe gyhoeddodd Dyfed Edwards, cyn-arweinydd y Cyngor, ym mis Rhagfyr na fyddai’n ail-sefyll yn yr etholiadau lleol eleni ar ôl naw mlynedd wrth y llyw.

Llwyddodd Plaid Cymru i ennill mwyafrif yn yr etholiadau lleol yr wythnos diwethaf gyda 41 o gynghorwyr.

‘Swydd bwysig’

“Mae hi’n fraint ac yn anrhydedd cael fy ethol i swydd arweinydd Grŵp Plaid Cymru Gwynedd,” meddai’r cynghorydd Dyfrig Siencyn.

“Mae hi’n swydd bwysig sy’n gosod y tir ar gyfer y gwaith caboledig sy’n cael ei wneud o fewn Gwynedd gan dîm cyfan o gynghorwyr, staff, asiantaethau, gwirfoddolwyr a chymunedau,” meddai gan estyn croeso at gynghorwyr newydd a presennol y cyngor.