Llun: Ben Birchall/PA
Mae’r Prif Weinidog Carwyn Jones wedi dweud ei fod wedi siarad â rheolwyr gweithfeydd Tata ym Mhort Talbot sydd yn gobeithio prynu’r safle, a’i fod yn fodlon cefnogi “unrhyw gynnig fydd yn cadw diwydiant dur Cymru yn fyw”.

Mae’n dilyn adroddiadau bod pennaeth safle Port Talbot, Stuart Wilkie, yn ystyried llunio tîm rheoli i brynu safleoedd Tata.

Cafodd y newyddion groeso gofalus gan arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig hefyd – ond mae Andrew RT Davies wedi beirniadu agwedd y Blaid Lafur wrth ddelio â’r sefyllfa yn dilyn sylwadau gan un o’u swyddogion.

Mae dyfodol y gweithfeydd wedi bod yn y fantol byth ers i’r cwmni o India gyhoeddi eu bod yn bwriadu gwerthu eu safleoedd ym Mhrydain.

Hyd yn hyn does dim prynwr pendant wedi’i ganfod ar gyfer y ffatri ym Mhort Talbot, yr un fwyaf yng Nghymru ac sy’n cyflogi 4,000 o weithwyr, er gwaethaf diddordeb gan Sanjeev Gupta o Liberty Group.

‘Cadw’r diwydiant yn fyw’

“Bore ‘ma fe wnes i drafod â Stuart Wilkie [pennaeth gweithfeydd Port Talbot] yn Tata Steel er mwyn trafod yr opsiwn sydd yn cael ei drafod ar hyn o bryd o weld y rheolwyr yn prynu’r safle,” meddai Carwyn Jones.

“Fe wnes i wneud e’n glir y byddwn ni’n barod i gefnogi unrhyw gynnig i gadw’r diwydiant dur yn fyw yng Nghymru, ac fe gytunon ni i gyfarfod eto’n fuan er mwyn trafod yr opsiwn mewn mwy o fanylder.

“Fe fydd Edwina Hart [Gweinidog Busnes Llywodraeth Cymru] yn teithio i Frwsel fory i gymryd rhan yn Niwrnod Dur Ewropeaidd … ac fe fydd hi’n trafod beth rhagor all gael ei wneud ar lefel Ewropeaidd.”

Mae’r Prif Weinidog David Cameron hefyd wedi dweud bod y Llywodraeth wedi’i hymrwymo i gefnogi’r cwmni yn ystod y broses werthu.

“Ar hyn o bryd rydym yn trafod gyda bwrdd Tata i sicrhau bod yr holl gwestiynau maen nhw am gael atebion iddyn nhw yn cael eu hateb oherwydd ry’n ni am gael proses werthu priodol a phrynwyr priodol,” meddai wrth Aelodau Seneddol yn ystod cwestiynau’r Prif Weinidog.

‘Nabod y cwmni drwyddi draw’

“Fe ddylai’r newyddion am brynwr posib i Tata roi rheswm i weithwyr fod yn ofalus obeithiol,” meddai Andrew RT Davies.

“Mae’r unigolyn y tu ôl i’r ymgais gan y rheolwyr i brynu yn nabod y busnes drwyddi draw, ac fe oedd yn gyfrifol am lunio’r cynllun achub gwreiddiol.

“Fe fydd pawb nawr yn gobeithio y gall trafodaethau barhau, gyda phob prynwr posib yn cael pob cyfle i gyflwyno’u cynigion.

“Dw i’n falch gweld bod ymdrechion y Llywodraeth Geidwadol i gefnogi’r broses hon yn dwyn ffrwyth cynnar, ac mae’n amlwg bod fy nghydweithwyr i yn San Steffan yn gwneud popeth y gallant i sicrhau diweddglo positif i’r broses yma.”

‘Gobaith orau’

Cafodd y datblygiad diweddaraf ei groesawu hefyd gan arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood, sydd eisoes wedi dweud y dylai’r llywodraeth ystyried opsiynau fel gwladoli dros dro, neu brynu rhan o’r gweithfeydd.

“Mae’n newyddion calonogol bod pennaeth gweithfeydd Port Talbot yn bwriadu lansio ymgais gan y rheolwyr i brynu safleoedd y cwmni ym Mhrydain,” meddai.

“Y datblygiad hwn nawr yw’r gobaith gorau o sicrhau dyfodol y diwydiant dur yng Nghymru.

“Yn sgil hyn dw i’n annog yr holl gyrff yng Nghymru – y llywodraeth, undebau a’r cyhoedd – i gefnogi tîm Tata mewn unrhyw fodd posib er mwyn sicrhau eu bod yn llwyddo.

“Mae’n rhaid i lywodraeth Prydain hefyd gamu ‘mlaen gyda’r gefnogaeth ariannol sydd ei angen er mwyn sicrhau bod ymgais y rheolwyr i brynu yn ddatrysiad posib i’r argyfwng.”

Ffrae eiriol

Yn y cyfamser mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig wedi galw ar y Prif Weinidog Carwyn Jones i gondemnio sylwadau gan un o swyddogion y Blaid Lafur, Andrew Fisher.

Mae’n debyg i Andrew Fisher ddweud mewn cyfarfod â grŵp Momentum fod yr argyfwng dur presennol wedi “chwarae’n dda” i’r Blaid Lafur.

Mynnodd Andrew RT Davies fod y fath sylwadau yn “warthus” ac yn ceisio “gwneud elw gwleidyddol sinigaidd” o’r argyfwng – er iddo gyfaddef mewn cyfweliad diweddar â golwg360 nad oedd yr helynt diweddar o reidrwydd yn adlewyrchu’n dda ar ei blaid yntau.

“Dylai Carwyn Jones a Jeremy Corbyn bellhau eu hunain ar unwaith o’r sylwadau yma,” meddai arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig.

Mae golwg360 wedi gofyn i Blaid Lafur Cymru am ymateb.