Mae’r Urdd yn rhannu ‘Gweithred yw Gobaith’, Neges Heddwch ac Ewyllys Da 2024 pobol ifanc Cymru, gyda’r byd ar ffurf ffilm animeiddiedig heddiw (dydd Gwener, Mai 17).

Cafodd y Neges eleni ei hysbrydoli gan Ddeiseb Heddwch Menywod Cymru 1923-24, gafodd ei llofnodi gan bron i 400,000 o fenywod ganrif yn ôl, ac mae’n datgan mai “her canrif newydd” yw’r angen i barhau i weithredu dros heddwch, a rhoi terfyn ar erchyllterau, rhyfeloedd a thrais.

Y rhai fu’n gyfrifol am y Neges Heddwch eleni yw merched sy’n fyfyrwyr ar gyrsiau ESOL (dysgwyr Saesneg fel ail iaith) yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro, ac sydd wedi symud i Gymru a gwneud Cymru yn gartref newydd, ynghyd â rhai o staff, prentisiaid a gwirfoddolwyr benywaidd yr Urdd.

Cefndir

Ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf, llofnododd 390,296 o fenywod yng Nghymru ddeiseb heddwch a’i chyflwyno, mewn cist dderw, i fenywod yr Unol Daleithiau yn y Biltmore Hotel, Efrog Newydd.

Roedd y ddeiseb yn apelio i’r Unol Daleithiau ymuno â Chynghrair y Cenhedloedd er mwyn gweld cydweithredu dros heddwch yn y byd.

Cafodd Deiseb Heddwch y Menywod a’r gist eu hailddarganfod a’u dychwelyd i Gymru y llynedd, ac roedd y stori yn ysbrydoliaeth i’r Urdd annog criw o ferched ifanc i ddod at ei gilydd i lunio’r Neges Heddwch ac Ewyllys Da eleni.

Bydd yr Urdd yn cynnal digwyddiad arbennig yn Sain Ffagan, Amgueddfa Werin Cymru yn nes ymlaen heddiw, lle mae Deiseb Heddwch 1923-24 yn rhan o arddangosfa ‘Hawlio Heddwch’ ar hyn o bryd.

Beth yw heddwch?

“Mae heddwch yn golygu nad oes rhaid i rieni boeni am sut i fwydo eu plant,” meddai Shatw Ali, un o’r bobol ifanc gyfrannodd at y Neges.

“Lle gall plant wylio tân gwyllt yn lle gwylio bomiau’n disgyn o’r awyr.

“Efallai ei fod yn ymddangos yn amhosib dod o hyd i le felly ar y blaned yma ond os edrychwch chi’n ofalus fe ddewch chi o hyd iddo, yn union fel y dois i o hyd i Gymru.

“Gwlad, gwerddon o dawelwch yng nghanol y byd anhrefnus.”

Yn ystod gweithdai o dan arweiniad Cyfarwyddwr Creadigol y Neges, Casi Wyn, bu’r merched yn sôn am eu profiadau o heddwch – a’r diffyg heddwch ym mywydau blaenorol ambell un, gan gynnwys y rheiny sy’n hanu o Affganistan, Swdan, Somalia a Bangladesh.

“Fe wnaeth y gweithdy i mi sylweddoli bod cymaint mwy o bobol yn chwilio’n daer am heddwch ac yng nghalon pawb mae yna ran sydd eisiau profi heddwch o leiaf unwaith yn eu hoes dim ots beth yw eu hil, oedran, rhywedd neu gefndir,” meddai Shatw Ali wedyn.

“Rydw i wir yn edrych ymlaen at weld y neges yn mynd allan.

“Fe wnaeth y grŵp a’r staff i gyd weithio’n galed arni felly rydw i’n edrych ymlaen at weld sut bydd y neges yn y diwedd.”

Gobaith mewn 65 o ieithoedd

Mae geiriau ‘Gweithred yw Gobaith’ ar gael mewn 65 o ieithoedd, er mwyn cryfhau neges ieuenctid Cymru ledled y byd.

Mae ffilm o’r Neges wedi’i chreu gan yr animeiddwraig Efa Blosse-Mason.

Ers 1922, mae ieuenctid Cymru wedi cyhoeddi Neges bob mis Mai, gyda thema wahanol o heddwch ac ewyllys da.

Mae’r Neges wedi’i rhannu bob blwyddyn yn ddi-ffael – i ddechrau drwy god Morse, ac wedyn drwy’r BBC World Service ac, yn fwy diweddar, drwy gyfryngau digidol.

Cafodd Neges 2023 ar wrth-hiliaeth ei gwylio gan filiynau mewn 50 o wledydd, mewn 53 iaith, a’i chefnogi gan enwogion a channoedd o ysgolion ledled Cymru a thu hwnt.

‘Ysbrydoledig’

“Pleser oedd derbyn gwahoddiad gan yr Urdd i gyfarwyddo Neges Heddwch ac Ewyllys Da’r Urdd eleni,” meddai Casi Wyn.

“Yn ystod cyfres o weithdai, roedd treulio amser yn pontio’r ddeiseb hanesyddol ysgrifennwyd yn ôl yn 1924 gyda gweledigaeth merched Cymru heddiw yn ysbrydoledig.

“Mae Efa Blosse Mason, sy’n bartner artistig imi ers blynyddoedd, wedi bywiocau geiriau’r neges yn ei chyfrwng arbennig ei hun.”

Mae’r Neges hefyd wedi’i chefnogi gan Vaughan Gething, Prif Weinidog Cymru.

“Rwy’n hynod falch o gefnogi Neges Heddwch ac Ewyllys Da’r Urdd, sydd o bwys mawr i bobol ar draws y byd,” meddai.

“Mae’r neges yn adlewyrchiad o uchelgeisiau pobol ifanc Cymru ac yn alwad i arweinwyr y byd weithredu, gyda’r nod o anelu at ddyfodol gwell i bob un ohonom.

“Yn fwy nag erioed, rwy’n annog pawb i ymgysylltu â’r neges a helpu i sicrhau bod lleisiau ein pobol ifanc yn cael eu clywed ledled y byd.”

‘Teimladwy’

“Rydyn ni’n eithriadol falch bod ein dysgwyr ESOL ni wedi cael cais i gyfrannu at Neges Heddwch ac Ewyllys Da ysbrydoledig Urdd Gobaith Cymru eleni, sy’n dathlu canmlwyddiant Deiseb Heddwch Merched Cymru 1923- 24,” meddai Sharon James-Evans, Pennaeth Coleg Caerdydd a’r Fro.

“Mae llawer o’n dysgwyr ESOL ni wedi dod atom ni o rannau o’r byd sydd ddim yn gwybod fawr ddim am heddwch, felly roedd gallu cymryd rhan yn y gwaith o greu a recordio’r neges hon yn fwy teimladwy iddyn nhw.

“Fel Coleg sydd wedi’i leoli yng nghalon un o gymunedau mwyaf bywiog ac amrywiol Cymru, rydyn ni wrth ein bodd bod ein dysgwyr ni wedi cael eu dewis i helpu i gyflwyno’r neges wirioneddol ryngwladol yma o obaith a chariad yn y cyfnod cythryblus hwn.”