Huw Lewis
Mae Gweinidog Addysg Llywodraeth Cymru, Huw Lewis wedi dweud bod yna bosibilrwydd y gallai Cymru basio Lloegr o ran canlyniadau TGAU.

Fe gaiff wybod heddiw a yw ei broffwydoliaeth yn gywir y bydd Cymru’n cael mwy o ganlyniadau A*- C na Lloegr am y tro cynta’.

Ond mae disgwyl y bydd cynnydd bach yn y canlyniadau gorau yn Lloegr hefyd ac mae cymharu’r ddwy system yn mynd yn fwy a mwy anodd.

Y llynedd – ‘y gorau erioed’

Y llynedd, roedd y prif sylw i’r ffaith fod y bwlch wedi cau rhywfaint rhwng canlyniadau gorau Cymru a Lloegr – i 1.4% – a dywedodd Huw Lewis ar y pryd mai dyna oedd y canlyniadau gorau erioed gan honni eu bod yn “uchafbwynt hanesyddol”.

Fis diwetha’, honnodd y gallai Cymru fynd heibio i Loegr o ran canlyniadau TGAU eleni.

Cymhlethdod arall yw fod rhagor o bobol ifanc yng Nghymru bellach yn sefyll arholiadau yn gynt yn y flwyddyn.

Disgwyl cyflogau mawr

Heddiw hefyd mae arolwg newydd gan gwmni Santander yn honni bod person 16 oed ar gyfartaledd yn disgwyl ennill £89,000 y flwyddyn ar frig eu gyrfa – gyda bron i un o bob pump yn disgwyl ennill mwy na £100,000.

Mae hynny’n groes i’r sefyllfa ar hyn o bryd, gyda lefel cyfartalog cyflogau yn ddim ond £26,500.

Fe ddangosodd yr arolwg o ddisgwyliadau pobol ifanc 16 oed bod y rhan fwya’n ffafrio gyrfa ym maes meddygaeth a gofal iechyd, gyda chyfrifiadureg a thechnoleg gwybodaeth yn ail, o flaen  cyfrifeg a bancio.