Bu farw tri dyn, un ohonyn nhw o Gaerffili, mewn damwain awyren yn Afghanistan oherwydd camddealltwriaeth rhwng criw’r awyren a’r gwasanaeth rheoli traffig awyr.
Roedd Christopher Carter, 51, o Gaerffili, David Taylor, 28, o Stoke-on-Trent a Daniel Saville, 40, a oedd yn byw yn Llundain ond yn dod o Bradford yn wreiddiol, ar fwrdd awyren Pamir Airways pan blymiodd i ochr mynydd ger Kabul ym mis Mai 2010.
Ddoe, cofnododd cwest yn Bradford reithfarn o farwolaeth ddamweiniol ar gyfer y tri dyn.
Clywodd y cwest sut oedd criw’r awyren wedi cysylltu â’r gwasanaeth rheoli traffig awyr i ofyn am ganiatâd i lanio ychydig cyn y ddamwain.
Gofynnodd y rheolwr traffig awyr i’r criw gynnal eu huchder presennol ond dechreuodd yr awyren ddisgyn, mewn tywydd gael, i ardal fynyddig tua 12 milltir o Kabul.
Dywedodd y crwner Neil Cameron y gallai’r rheolwr traffig awyr fod wedi rhybuddio’r criw eu bod yn disgyn yn rhy gyflym.
Ychwanegodd fod system rybuddio wedi cael ei gamddeall gan y criw – naill ai oherwydd diffyg iaith neu oherwydd rybuddion ffug blaenorol.
Dywedodd y crwner fod adroddiad damwain awyr swyddogol wedi dweud mai gweithredoedd y peilot a diffyg rheoliadau yn Afghanistan oedd achosion mwyaf tebygol y ddamwain.