Llŷr Gruffydd
Mae Aelod Cynulliad Plaid Cymru, sydd wedi bod yn feirniadol iawn o fethiannau Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, wedi galw ar benaethiaid y corff i “ddatgelu popeth” a rhoi gwybod i’r cyhoedd am unrhyw bryderon a allai fod yn destun ymchwiliad.

Roedd AC Plaid Cymru dros Ogledd Cymru Llŷr Gruffydd yn llafar iawn wrth feirniadu’r bwrdd iechyd am gael ei roi mewn mesurau arbennig yn dilyn pryderon am ei berfformiad – yn benodol yn ward iechyd meddwl Tawel Fan, Ysbyty Glan Clwyd.

Mae’n dweud mai sefyllfa Tawel Fan yw’r diweddaraf “mewn rhestr hirfaith o fethiannau yn y bwrdd iechyd”.

Daeth cadarnhad yr wythnos diwethaf bod yr heddlu yn ymchwilio i agweddau o gynllun ariannol Betsi Cadwaladr a bod dau aelod o staff wedi cael eu gwahardd o’u gwaith.

‘Darlun llawn’

Amlinellodd Llyr Gruffydd yr hyn a alwodd ef yn “gatalog o fethiannau” yn y bwrdd iechyd, gan ddweud y dylai’r Llywodraeth Lafur fod wedi gweithredu ynghynt i roi terfyn ar y methiannau.

“O’r diwedd, mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr mewn mesurau arbennig wedi i’r adroddiad i gam-drin sefydliadol yn ward Tawel Fan ddod i’r fei,” meddai Llyr Gruffydd.

“Ond gwarth Tawel Fan oedd y diweddaraf yn unig mewn rhestr hirfaith o fethiannau yn y bwrdd iechyd.

“Ers 2012, yr ydym wedi gweld catalog o fethiannau yn y bwrdd iechyd. Rwyf eisiau gwybod a oes unrhyw bryderon eraill y mae ymchwiliad yn cael ei gynnal iddyn nhw.

“Mae’n bryd i’r Llywodraeth Lafur yng Nghymru roi popeth ar y bwrdd, a dweud yn union beth yw’r problemau. Hyd nes i gleifion gael y darlun llawn, allan nhw ddim ymddiried yn llwyr yn y bwrdd iechyd.”