Mae’r heddlu’n apelio am wybodaeth ar ôl gwrthdrawiad angheuol rhwng car a beic modur yn Nantyglo ym Mlaenau Gwent ychydig wedi 6 neithiwr.

Fe fu farw’r beiciwr modur, dyn 43 o ardal Nantyglo, o’r anafiadau a gafodd yn y gwrthdrawiad. Ni chafodd gyrrwr y car, dyn 19 oed o ardal Caerdydd, ei anafu, a chafodd ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru peryglus. Mae wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth tra bydd yr heddlu’n gwneud ymholiadau pellach.

Mae Heddlu Gwent yn gofyn i unrhyw un a welodd y digwyddiad yn Chapel Road yn Nantyglo eu ffonio ar 101 gan nodi’r cyfeirnod 401 22/04/15.