Y panel yn sgwrsio yng Nghaffi Maes B
Sesiwn drafod y Sîn Roc Gymraeg – Caffi Maes B

Dwi newydd fod yn fy hoff ardal o’r maes eto, Caffi Maes B, ond i wrando ar sgwrs y tro hyn rhwng rhai o ‘big shots’ y diwydiant cerddoriaeth Gymraeg – hyrwyddwyr gigs, swyddogion o PRS ac Eos ayb.

Roedd hi’n sesiwn drafod hynod o ddiddorol gyda’r ffocws ar wrandawyr radio a mynychwyr gigiau Cymraeg. Roedd y casgliad cyffredinol yn  bositif wrth i’r siaradwyr ymfalchïo yn y ffaith fod tua 10,000 yn gwrando ar C2, ond eto roedd yn amlwg fod angen cynnydd yn nifer cynulleidfaoedd gigiau Cymraeg a’r gred oedd mai dyletswydd Radio Cymru oedd gwneud hynny.

Cynigiodd Dilwyn Llwyd y syniad o gael dwy orsaf radio gan ddweud ei fod yn gwbl amlwg fod angen y ddau i wahaniaethu rhwng cerddoriaeth gyfoes a rhaglenni i’r demograffig 16 – 40 a’r rhaglenni sydd yn ystod y dydd ar y foment.

O’n i braidd yn ddig am ychydig gan fod y panel yn cynnwys pobl o’r gogledd yn unig, ac felly roedd hanner cynta’r drafodaeth wedi’i ddominyddu gan drafod y sin a’r gigiau’n y gogledd. Fodd bynnag, fe drowyd i sôn am yr hyn oedd yn mynd ymlaen yn ne-orllewin Cymru a’r ffaith fod gigiau’n cael eu hyrwyddo’n gwbl leol yn y fan honno a’n llwyddo yn yr un modd, ac felly fe’m plesiwyd.

Wrth gwrs, doedd hi ddim yn sesiwn drafod mor ffurfiol ag arfer gydag ambell i reg ysbeidiol, a sarhau rhai cyflwynwyr mewn modd cyfeillgar o dro i dro,  ond dyna oedd yn dda am yr holl beth. Sgwrs anffurfiol a oedd yn ddiddorol, yn agoriad llygad hynod o ddefnyddiol ond hefyd yn hawdd i wrando arni wrth orwedd i lawr ar y bean-bags hyfryd.