Morgannwg v Swydd Warwick: Buddugoliaeth i’r sir Gymreig!

Mae Morgannwg ar eu ffordd i Trent Bridge ar Fedi 22

Sgorfwrdd

Mae tîm criced Morgannwg yn herio Swydd Warwick yng Nghaerdydd heddiw (dydd Sul, Awst 18) am le yn rownd derfynol Cwpan Undydd Metro Bank yn Trent Bridge, Nottingham fis nesaf.

Dim ond unwaith roedd y sir Gymreig wedi colli yn eu grŵp, gydag un arall o’r wyth gêm yn dod i ben heb ganlyniad yn sgil y glaw.

Fe wnaethon nhw orffen eu grŵp gyda buddugoliaeth o 62 rhediad dros Swydd Efrog, gan sicrhau eu lle yn y rownd gyn-derfynol heb orfod chwarae gêm ail gyfle.

Pe baen nhw’n curo Swydd Warwick, byddan nhw’n herio Swydd Gaerlŷr neu Wlad yr Haf yn y rownd derfynol ar Fedi 22.

Y timau

Mae gan Forgannwg nifer o chwaraewyr allan ag anafiadau, gan gynnwys y batiwr agoriadol Eddie Byrom, y chwaraewyr amryddawn Zain ul Hassan a Tom Norton, y wicedwyr Chris Cooke ac Alex Horton, a’r bowliwr cyflym James Harris.

Maen nhw wedi penderfynu peidio galw’r troellwr coes Mason Crane yn ôl o’r Can Pelen, lle mae e wedi bod yn chwarae i’r Tân Cymreig.

Mae Rob Yates a Hamza Shaikh yn dychwelyd i garfan yr ymwelwyr ar ôl bod yn chwarae i Lewod Lloegr.

‘Cyffro gwirioneddol’

“Mae yna gyffro gwirioneddol yn y garfan wrth i ni edrych ymlaen at gêm gyn-derfynol gartref ddydd Sul,” meddai Grant Bradburn, prif hyfforddwr Morgannwg.

“Gyda rhagolygon y tywydd yn edrych yn dda, bydden ni wrth ein boddau’n gweld cefnogwyr Morgannwg allan yn eu heidiau.

“Uchafbwynt yr ymgyrch hyd yma yw’r llawenydd o weld gwahanol chwaraewyr yn camu ymlaen bob gêm i greu argraff wrth ennill.

“Mae’r chwaraewyr yn dod yn gyfforddus ac yn gyfarwydd â’n brand er mwyn ennill a’r rolau o fewn hynny, tra ein bod ni’n teimlo fod gennym ni dîm cytbwys iawn.

“Dw i’n synhwyro dyfalbarhad braf gan y chwaraewyr i ryddhau eu holl sgiliau, gan fwynhau ac achub ar y cyfle hwn mae’r chwaraewyr yn ei haeddu’n llwyr.

“Rydyn ni’n gwybod fel tîm ein bod ni’n tyfu bob gêm gyda’n gilydd, a dw i’n sicr yn teimlo bod gwell i ddod eto.”

Carfan Morgannwg: K Carlson (capten), T Bevan, D Douthwaite, A Gorvin, H Hurle, C Ingram, B Kellaway, J McIlroy, B Morris, S Northeast, B Root, A Tribe, W Smale, T van der Gugten

Carfan Swydd Warwick: T Ali, E Barnard (capten), C Benjamin, M Booth, M Burgess, O Hannon-Dalby, J Lintott, Z Malik, C Miles, M Rae, W Rhodes, H Shaikh, K Smith, T Wylie, R Yates

11:05

Os ydych chi eisiau dilyn y gêm gyn-derfynol arall rhwng Gwlad yr Haf a Swydd Gaerlŷr, ewch i’r sgorfwrdd hwnnw.

11:01

Tywydd criced yng Nghaerdydd ☀

10:59

Mae’r dyfarnwyr Nigel Llong a Neil Pratt ar y cae.

Will Smale ac Asa Tribe sy’n agor y batio i Forgannwg.

Dyma ni!

10:57

Dilynwch bob pelen ar y sgorfwrdd

10:41

Tîm Morgannwg

  • Will Smale
  • Asa Tribe
  • Kiran Carlson (capten)
  • Sam Northeast
  • Colin Ingram
  • Billy Root
  • Ben Kellaway
  • Dan Douthwaite
  • Timm van der Gugten
  • Andy Gorvin
  • Jamie McIlroy

Tîm Swydd Warwick

  • Rob Yates
  • Ed Barnard (capten)
  • Will Rhodes
  • Hamza Shaikh
  • Michael Burgess
  • Chris Benjamin
  • Kai Smith
  • Jake Lintott
  • Michael Booth
  • Michael Rae
  • Olly Hannon-Dalby

10:39

Swydd Warwick sydd wedi galw’n gywir. Morgannwg fydd yn batio.

Timau i ddilyn.

10:07

Mae’n dair blynedd ers i Forgannwg ennill y gystadleuaeth hon ddiwethaf. Dyma’r hanes:

Morgannwg

Morgannwg yn bencampwyr Cwpan Royal London

Maen nhw wedi curo Durham o 58 rhediad yn y gystadleuaeth 50 pelawd

Morgannwg yn serennu heb y sêr

Alun Rhys Chivers

Mae aelod o dîm criced Morgannwg yn dweud ei fod e’n gobeithio y gall ennill Cwpan Royal London esgor ar gyfnod llwyddiannus yn hanes y clwb

10:04

Bore da! Ac mae’n fore braf.

Bydd y gêm yn dechrau ymhen awr am 11 o’r gloch.

Byddwn ni’n gwybod erbyn tua 10.30 pwy fydd yn batio a bowlio, ac fe gawn ni newyddion y timau hefyd.