Wedi iddyn nhw golli yn y T20 nos Wener, bydd Morgannwg yn ceisio rhoi eu siom o’r neilltu wrth iddyn nhw groesawu Swydd Northampton i Stadiwm Swalec yn ail adran y Bencampwriaeth.

Roedd Morgannwg yn drech na Swydd Essex yn eu gornest ddiwethaf yn y Bencampwriaeth yng Nghaerdydd, ac maen nhw’n parhau’n ddi-guro yn y fformat pedwar diwrnod.

Mae’r ymwelwyr hefyd yn ddi-guro yn y Bencampwriaeth y tymor hwn ac maen nhw un safle uwchben Morgannwg yn y tabl.

Ar drothwy’r ornest, dywedodd prif hyfforddwr Morgannwg, Toby Radford: “Mae’r Bencampwriaeth yn mynd yn dda i ni, pedair gornest gyfartal a buddugoliaeth dda iawn dros Swydd Essex y tro diwethaf.

“Ry’n ni’n hapus gyda’r ffordd ry’n ni’n chwarae criced yn y Bencampwriaeth, ond mae Swydd Northampton wedi dechrau’n dda wedi iddyn nhw ddychwelyd i’r ail adran, felly dwi’n siwr y byddan nhw’n rhoi her sylweddol i ni dros y pedwar diwrnod nesaf.”

Mae Ben Wright, Dean Cosker a Ruaidhri Smith wedi’u cynnwys yn y deuddeg i herio Swydd Northampton, ond does dim lle i David Lloyd, sydd wedi’i anafu o hyd, na chwaith i James Kettleborough.

Carfan 12 dyn Morgannwg: J Rudolph (capten), W Bragg, B Wright, C Ingram, C Cooke, M Wallace, G Wagg, C Meschede, R Smith, A Salter, D Cosker, M Hogan

Carfan 13 dyn Swydd Northampton: S Peters, K Coetzer, R Newton, R Keogh, J Cobb, A Rossington, B Duckett, D Willey, A Wakely, R Kleinveldt, Muhammad Azhar, G White, M Chambers