Sharleen Spiteri, ar ei ffôn poced, ar Faes yr Eisteddfod ddydd Iau
Fe fyddai prif gantores y band Texas wrth ei bodd yn canu ar lwyfan perfformio’r Eisteddfod rhyw ddydd.

Roedd Sharleen Spiteri yn sgwrsio ger y llwyfan perfformio ar y maes ddoe cyn i’w chariad, y cogydd Bryn Williams, gael ei urddo’n aelod o’r Orsedd heddiw.

Dywedodd Sharleen Spiteri wrth golwg360: “Dyma’r tro cynta’ i mi ddod i’r Eisteddfod, ac mae hi’n wych cael ymlacio a dathlu’r diwylliant. Mae fy merch i yma hefyd ac mae hi’n cael amser grêt yn rhedeg o gwmpas.

“Mi fyddwn ni’n dod nôl eto yn bendant – a dweud y gwir, dw i ffansi mynd ar y llwyfan yna i ganu fy hun!”