Aeth cwpwl o flynyddoedd heibio bellach ers cyhoeddi’r flodeugerdd ddwyieithog A470: Cerddi’r ffordd (Arachne Press).

Bu hi ar daith wedi hynny, wrth i’r wasg, y golygyddion a rhai o’r beirdd fynychu digwyddiadau ar hyd a lled y wlad, i’w chyflwyno i gynulleidfaoedd newydd.

Fues innau yn rhan o ambell i ddigwyddiad – o Siop Lyfrau’r Senedd-dŷ ym Machynlleth i Siop Lyfrau’r Hen Bost yn Nolgellau, a Palas Print yng Nghaernarfon – a braf ac amrywiol fu pob un digwyddiad.

Ond ddydd Iau (Ebrill 25), daeth tro Wrecsam, bro fy mebyd. Roedd y digwyddiad yn rhan o’r Ŵyl Geiriau – a hithau’n dathlu degawd o ddigwyddiadau llenyddol amrywiol. Yn y llyfrgell roedden ni am 2yp, a finnau ddim yn siŵr a fyddai llawer o gynulleidfa, a hithau’n £6 y tocyn ganol pnawn, yn ystod yr wythnos! Ond mi ddôth criw go lew o bobol glên, a chawsom groeso cynnes a chalonogol, ynghyd â sgyrsiau difyr.

Y panel

Dechreuodd y golygyddion, Siân Northey a Ness Owen, drwy roi ychydig o hanes y llyfr. Daeth y syniad am y sgwrs rhwng Cherry Potts, Cyfarwyddwr Arachne Press, a’r bardd Ness Owen o’r ffaith fod cyfrol farddoniaeth Ness, Mamiaith, yn trafod y Gymraeg ond wedi’i sgwennu yn Saesneg. Arweiniodd hyn wedyn at gais am flodeugerdd ddwyieithog.

Esboniodd Siân Northey fod y 51 o cerddi wedi’u dethol yn anhysbys ar sail teilyngdod, yn hytrach na pha mor adnabyddus oedd y beirdd oedd wedi eu sgwennu. Daeth y ceisiadau trwy Submittable.

Darllenodd Ness ei cherddi hi, yn y Gymraeg a’r Saesneg, am deimlo’n sâl yn y car wrth fynd o Ynys Môn i Abertawe yn blentyn i weld ei Nain a’i Thaid.

Darllenodd Siân ei cherddi hi, ynghyd ag adrodd stori ddoniol am y ffaith fod Cherry wedi cyfieithu’r gerdd yn wreiddiol trwy Google Translate… a chanfod ystyr amgen Saesneg i ‘rhyw bedair awr’! Ym mhob digwyddiad, mae yna eiliad neu ddwy cyn i un person ddechrau chwerthin a chyn i bawb arall sylweddoli pam!

Fi a Gwenno Gwilym oedd y ddwy arall ymhlith y beirdd, ac mi wnaethon ni roi rhywfaint o gyd-destun i’n cerddi ninnau hefyd; yn ddigon ysmala, mi roedden ni yn gwbl groes i’n gilydd, gyda Gwenno yn teimlo ei bod hi wedi treulio einioes yn trafaelio ar y ffordd, tra roeddwn innau wedi stryffaglu i ffeindio unrhyw bwynt arni doeddwn erioed wedi ymweld â hi!

Naws Wrecsam-aidd

Cawsom ein cyflwyno i’r gynulleidfa gan Aled Lewis Evans, bardd Wrecsam, oedd yn eironig ddigon heb anfon cerdd am nad oedd yn teimlo’i fod wedi bod â llawer o gysylltiad â’r ffordd yma erioed – yr union beth oedd yn destun cerdd Dylan Wyn Jones yn y gyfrol.

Hyfryd iawn oedd i Aled gyfeirio ataf fel ‘Ein Sara ni’, a thrafod y ffaith fy mod yn fardd lleol, gan ystyried efallai y byddwn yn dod â ryw naws lleol i’r sgwrs. Yn hynny o beth, roedd siom o ran fy ngherdd gan taw ‘Cynhadledd yn y gwesty gwyrdd’ gafodd ei chyhoeddi yn y gyfrol, sydd yn eithaf pell o Wrecsam (dw i dal ddim am gadarnhau lle mewn du a gwyn!).

Ond mi wnaeth y sgwrs hefo’r gynulleidfa droi at ddefnydd iaith a’r ffaith fod Cymraeg y gogledd-ddwyrain yn wahanol iawn, megis ein bod ni yn osgoi llawer iawn o genedl enwau ac felly treigladau, be debyg oherwydd ein bod ni dafliad carreg o’r ffin.

Er enghraifft, dydyn ni ddim yn gwahaniaethu rhwng ‘hon’ a ‘hwn’, ond yn hytrach yn dweud ‘yma’. Gofynnodd Sian sut fyddwn yn dweud fod cadair yn broken, a dywedais ‘wedi torri’ yn hytrach na ‘wedi malu’ fel fysa rhai pobol y gogledd-orllewin yn ei ddweud – a dw i’n cymryd felly eu bod nhw yn treiglo pan fo angen.

Wrth gwrs, mae fy mhroblemau hefo treiglo, a fy anallu personol i ddysgu’r rheolau (hyd yma, beth bynnag!) yn deillio hefyd o’r ffaith fy mod hefo anghenion dysgu ychwanegol, ond am fy mod o’r gororau, dw i ddim wedi dysgu’r treigladau ar lafar chwaith.

Mi wnaeth y sgwrs hon ysgogi sgwrs ychwanegol rhyngof fi a’r llyfrgellydd ar ôl y digwyddiad, ac rwy’n bwriadu dilyn ymlaen o hyn cyn bo hir.

Y ffordd ymlaen

Braf iawn yw bod yn rhan o flodeugerdd fel A470 a braint o’r mwyaf yw cael cyflwyno fy ngherddi fel hyn mewn unrhyw ddigwyddiad, ond mi roedd cael gwneud hynna yn y llyfrgell yn Wrecsam, lle treuliais gymaint o fy mhlentyndod a fy arddegau wrth adolygu at arholiadau, wir yr yn deimlad arbennig.

Mae’n debyg fod cyfnod roadshow y flodeugerdd lwyddiannus yma yn dirwyn i ben erbyn hyn, ond mae gen i gerddi mewn sawl blodeugerdd bellach.

Yn wir, ar fy ffordd o faes parcio Tŷ Pawb i’r digwyddiad yn y llyfrgell, wnes i bicio i Siop Siwan yn Nhŷ Pawb i ‘mofyn copi o Cerddi’r arfordir sydd newydd ei gyhoeddi… a ges i sioc wrth weld taw cerdd wahanol i’r un roeddwn yn ei disgwyl roedd y golygydd wedi ei dewis!

Ond ta waeth, rwy’n browd o bob cerdd rwy’n ei sgwennu, a braf oedd sgwrsio hefo un o ffrindiau ysgol fy mrawd ar ôl y digwyddiad, a hwnnw yn rhyfeddu at sut roedd yr hogan fach oedd methu darllen nawr yn fardd!

Llyfrau ar werth yn y ddigwyddiad

A dyma oedd fy début yn darllen fy ngwaith yn yr ŵyl geiriau, ac mi ges i le hefyd ar y bwrdd i hyrwyddo fy mhamffled cyntaf o farddoniaeth Trawiad|Seizure. Ac mi ges i sgwrs hefo’r pwyllgor trefnu am y ffaith fy mod, ar hyn o bryd, yn aros i focs cyntaf fy nghyfrol newydd A Goareig Patchwork Quilt gyrraedd, er mwyn i mi gael dechrau ei hyrwyddo. A dyfynnu teitl fy ngherdd yn Cerddi’r Arfordir, ‘Dechrau’r daith’ yw hyn oll i mi!