Mae rhwydwaith newydd wedi cael ei sefydlu i gysylltu diwydiannau creadigol yng ngorllewin Cymru.

Nod Gorllewin Cymru Creadigol ydy dod â siroedd Abertawe, Ceredigion, Penfro, Caerfyrddin a Chastell-nedd Port Talbot ynghyd.

Blaenoriaeth y rhwydwaith ydy canolbwyntio ar dwf y sectorau sgrin, cerddoriaeth, digidol, ac ymchwil a datblygu.

Y camau nesaf yw sefydlu grŵp llywio gyda chynrychiolwyr o’r sectorau gwahanol, siroedd, a sefydliadau addysg uwch ac addysg bellach er mwyn cyd-gynllunio’r digwyddiadau a datblygiadau nesaf.

Mae rhwydweithiau tebyg eisoes yng Nghaerdydd a’r gogledd, ac mae adroddiad diweddar gan Brifysgol De Cymru yn cydnabod fod clwstwr creadigol yn y de-orllewin ac maen nhw’n rhagweld twf o 11.3% yno.

‘Cefnogi cadw talent’

Cymru Greadigol, un o asiantaethau Llywodraeth Cymru, sydd wedi rhoi’r arian cychwynnol tuag at y sefydlu’r rhwydwaith.

“Mae lansio Gorllewin Cymru Greadigol yn newyddion cyffrous i’r sector, ac rwy’n falch iawn ein bod yn gallu cefnogi sefydlu’r rhwydwaith,” meddai Dawn Bowden, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth yn Llywodraeth Cymru.

“Gobeithiwn y bydd creu Gorllewin Cymru Greadigol yn cefnogi cadw talent a datblygu sgiliau yn y dyfodol, yn gwella amrywiaeth creadigol a chyfleoedd ar draws y sector, ac edrychwn ymlaen at weld llawer o bartneriaethau a syniadau yn ffynnu fel rhan o’r fenter newydd hon.”

‘Hanes o lwyddiant’

Cafodd y rhwydwaith ei lansio yng Nghanolfan S4C Yr Egin yng Nghaerfyrddin, gyda sesiwn cwestiwn ac ateb yng nghwmni aelodau o gwmnïau cynhyrchu.

“Gyda’r hyder a’r hanes o lwyddiant yn sgil pum mlynedd o osod gwreiddiau’r Egin a chanfyddiadau cychwynnol ymchwil diweddar yn nodi i’r Egin gynhyrchu effaith economaidd o £21.6 miliwn yn economi Cymru yn ystod 2022-2023, ac effaith economaidd yn Sir Gâr o £7.6 miliwn yn ystod yr un flwyddyn, rwy’n gyffrous i ddatblygu rhwydwaith Gorllewin Cymru Greadigol fydd â chydweithio, annog, cwestiynu a dysgu yn rhan annatod ohono er mwyn codi proffil y diwydiannau creadigol a sbarduno twf pellach ar draws y rhanbarth,” meddai Carys Ifan, cyfarwyddwr Yr Egin.