Y sefyllfa tai, yr amgylchfyd a’r Gymraeg yw rhai o flaenoriaethau pobol ifanc fydd yn cael pleidleisio mewn etholiad cyffredinol am y tro cyntaf fis nesaf.

Er bod oedran pleidleisio’r Senedd ac etholiadau lleol Cymru wedi gostwng i 16 oed ers 2021, rhaid bod yn ddeunaw i bleidleisio yn etholiadau San Steffan o hyd.

Mae’r polau piniwn yn awgrymu bod gan y Blaid Lafur fantais sylweddol yng Nghymru o gymharu â’r Ceidwadwyr.

Yr etholiad hwn fydd y tro cyntaf i ffiniau etholaethau newydd gael eu defnyddio hefyd, a bydd nifer aelodau seneddol Cymru’n gostwng o 40 i 32.

Un sy’n poeni am effaith hyn oll yw Owain Siôn o Lanfairpwll, lle bydd yn pleidleisio ar Orffennaf 4.

Mae yn ei flwyddyn gyntaf yn astudio Gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd.

“Yn bendant, yng nghanol yr holl syniad o newid ffiniau etholaethau lawr i 32, mae o’n teimlo fel bod llais y Cymry’n cael ei fychanu yn San Steffan, felly mae angen gwneud yn siŵr bod ein democratiaeth ni yn iach ar gyfer y dyfodol,” meddai wrth golwg360.

“Pobol ifanc sydd ddim ond rŵan yn dechrau pleidleisio, dw i yn poeni bod hyn yn mynd i droi pobol i ffwrdd yn gyfangwbl, achos fydd o’n rhy gymhleth iddyn nhw ddysgu’r ffiniau newydd, dysgu pwy sy’n siarad drostyn nhw, yn lle.

“Mae hynna’n dychryn rhywun, ein bod ni’n ddibynnol wedyn ar ddemograffeg hŷn i fod yn ein cynrychioli.”

Tai a swyddi

Un o’r prif bethau sy’n poeni Owain Siôn cyn yr etholiad yw’r sefyllfa dai mewn llefydd fel Ynys Môn, Pen Llŷn a Sir Benfro.

Mae gan y Senedd ym Mae Caerdydd gyfrifoldeb dros dai, ac er bod camau wedi cael eu cymryd i geisio rheoli’r sefyllfa, megis rhoi pwerau i gynghorau godi premiwm treth gyngor uwch ar ail dai a thai gwag, mae ymgyrchwyr iaith wedi bod yn galw am fwy o weithredu.

“Mae o’n greisis, does yna ddim ffordd arall o’i ddisgrifio fo,” meddai.

“Rydych chi’n gweld tai prydferth uffernol mewn llefydd deniadol, ac rydych chi’n gwybod fod rheiny ddim wedi cael eu hadeiladu ar ein cyfer ni; dydyn nhw ddim yn chwarae rhan yn ein dyfodol ni.

“Mae o’n od. Rhywle lle dw i wedi tyfu fyny, dw i wrth fy modd yn dod yn ôl rŵan o’r brifysgol dros yr haf a ballu, a gorfod meddwl os ydy o’n realistig meddwl fydda i’n gallu dod yn ôl yma i fyw?

“Rydych chi’n gorfod meddwl lle sy’n mynd i gynnig swydd lle dw i’n gallu fforddio tai; yn anffodus, rydych chi’n sbïo ar ddinasoedd, rydych chi’n sbïo’n bendant dros y bont o ran Sir Fôn.

“Y farchnad swyddi i gyd-fynd efo prisiau tai, does yna ddim ratio o gwbl bron.”

Addysg a pholisi tramor

Cytuna Ifan Meredith, sy’n 18 oed ac yn dod o Lanbed, fod swyddi’n fater pwysig iddo yntau hefyd.

Mae newydd orffen ei arholiadau Safon Uwch ac yn gobeithio astudio Newyddiaduraeth yn y brifysgol.

“Mae’n anodd cael blaenoriaethau… achos ein bod ni mewn system ddatganoledig, mae blaenoriaethau pobol ifanc fel addysg yn un mawr ond does dim pŵer gyda San Steffan dros hynny bellach,” meddai wrth golwg360.

“Unrhyw arian addysg fyddai’n cael ei wario yn Lloegr, bydde fe’n cael ei wario yng Nghymru hefyd gobeithio; mae hwnnw’n un o’r pethau pwysig.

“Gyda bod e’n etholiad sydd wedi digwydd ar dipyn o frys, dw i’n meddwl ei bod hi’n anodd cael cyfranogiad pobol ifanc.

“Ymhellach ymlaen, gobeithio bydd camau i ddod â’r system wleidyddol mwy mewn i’r cwricwlwm.”

Doedd e heb ddechrau’r ysgol uwchradd, hyd yn oed, pan gafodd refferendwm Brexit ei gynnal wyth mlynedd yn ôl, ond mae’n teimlo bod cynnal cysylltiadau byd-eang yn fater pwysig yn yr etholiad hwn.

“Fel rhywun sy’n licio teithio, mae hwnna’n bwysig i fi,” meddai.

“Mae eisiau rhyw fath o adfer ar ôl Brexit.”

Argyfwng costau byw

Mae Nanw Maelor, sy’n 20 oed ac yn dod o’r Wyddgrug, newydd orffen ei hail flwyddyn yn astudio Cymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth, ac mae’r argyfwng costau byw yn uchel ar ei rhestr o flaenoriaethau.

Gallai hyd at 200 o swyddi fod dan fygythiad ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Chwyddiant, ffioedd domestig sydd wedi cynyddu gyda chwyddiant a chwymp yn y marchnadoedd recriwtio rhyngwladol sydd wedi cael eu beio.

“Mae costau addysg ni newydd fynd fyny rŵan, dim wrth lot ond rydyn ni’n gweld y yn brifysgol ei hun bod yna lot o ansicrwydd ariannol – nid yn unig i fyfyrwyr, ond hefyd i ddarlithwyr,” meddai wrth golwg360.

“Mae’r argyfwng costau byw yn holl bresennol o fewn bywyd prifysgol, yn fwy na dim ond o fewn bywyd personol, ond addysg ei hun.”

Pwysleisia ei bod hi’n awyddus i weld pleidiau’n canolbwyntio ar faterion bob dydd sy’n effeithio ar bobol, megis yr argyfwng costau byw a’r argyfwng tai.

“Mae o’n bwysig bod gwleidyddion yn rhoi pethau sy’n bwysig i bobol gyffredin [mewn maniffestos].

“Rydyn ni’n gweld ym maniffesto’r Ceidwadwyr fod yna sôn am anfon ffoaduriaid i Rwanda ac alltudio pobol draws[ryweddol] o wardiau ysbytai.

“Mae yna fwy o ffocws ar greu ffiniau yn hytrach na chreu cymdeithas ddiogel a chroesawgar.”

‘Cymru Rydd, Werdd, Gymraeg’

Y Gymraeg a diwylliant Cymru yw blaenoriaethau Mirain Owen, myfyrwraig 19 oed o Abertawe sy’n astudio’r Gyfraith.

“Mae datblygu addysg Gymraeg a gwella addysg bellach Gymraeg yn bwyntiau hollbwysig i fi,” meddai wrth golwg360.

“Dw i hefyd yn gweld yr amgylchedd fel blaenoriaeth fawr; fel person ifanc mae dyfodol ein gwlad ni a’r byd yn ehangach yn bwysig i fi.

“Trwy ddulliau cymunedol, llai cyfalafol y bydd modd achub ein planed, ac fel lot o bobol fy oedran, dw i’n meddwl bod yr amgylchfyd yn fater o bryder personol, a hefyd o ran ystyried dyfodol ein plant ac ati.”

Mae annibyniaeth yn ffactor arall sy’n ystyriaeth iddi, meddai.

“Yr unig ffordd alla i weld unrhyw un o’r uchod yn dod yn realiti yw drwy annibyniaeth.

“Dw i’n cydweld â safbwynt Cymdeithas yr Iaith, sef Cymru Rydd, Cymru Werdd a Chymru Gymraeg.”