Gyda’r awdures Manon Steffan Ros yn dod yn Ddoethur er anrhydedd mewn Llenyddiaeth ym Mhrifysgol Bangor yr wythnos hon, dyma flas ar ei cholofn ddiweddaraf i gylchgrawn Golwg…

 

Canghellor Benywaidd

Dim ond crybwyll y peth maen nhw ar y radio. Un frawddeg fer, ffwrdd-â-hi, wedi ei gwasgu rhwng mwy o wybodaeth am y llywodraeth newydd, enwau nad oedd Fran wedi clywed y rhan fwyaf ohonyn nhw o’r blaen. Llonyddodd Fran, stêm y swper yn codi o’r sosban o’i blaen.

Penodwyd Rachel Reeves yn Ganghellor y Trysorlys – y fenyw gyntaf i gael y swydd.

Roedd hynny, meddyliodd Fran, yn haeddu mwy na brawddeg. Roedd o’n haeddu mwy na llais fflat, undonog y ferch oedd yn darllen y newyddion, hefyd. Bonllef, efallai, neu “Wwwhwwww!” o fuddugoliaeth. Sŵn chwip? By-tshhhhh! i ddeffro’r tonfeddi. ‘Da ni’n dod amdanoch chi…

Yn yr ystafell fyw, rhegodd Gwern ar rywbeth y gwelodd ar ei ffôn.

Canghellor, meddyliodd Fran wrth ail-afael â’r swper. Yr un oedd yng ngafael pwrs y wlad. Diawl o beth ei bod hi wedi cymryd tan rŵan i’r wlad ymddiried digon mewn dynes, yn enwedig â merched wedi profi dro ar ôl tro eu bod nhw’n gallu cadw dau ben llinyn ynghyd. Bobol annwyl, deugain punt yr wythnos roedd hi’n ei gael gan Gwern bob wythnos i dalu am fwyd i’r ddau, ac roedd y diawl gwyneb tîn yn disgwyl cael cig efo pob pryd…

Fyddai dim ots gan Fran gael job y Canghellor.

Neu unrhyw job, a dweud y gwir, tasa Gwern yn caniatau hynny. Ychydig flynyddoedd yn ôl, pan oedd y plant yn ddigon hen i edrych ar ôl eu hunain ar ôl ysgol, gwelodd Fran swydd mewn siop sgidiau wedi ei hysbysebu yn y papur newydd, a dychmygodd ei hun yn yr iwnifform bach taclus, yn helpu mesur traed plant bach ar gyfer eu pâr cynta’ o sgidiau. Ond doedd Gwern ddim yn hapus. Dim hyd yn oed ar ôl i’r plant adael y nyth. A byddai, mi fyddai Fran wedi gallu trio am y job beth bynnag, ond byddai Gwern wedi harthio a hefru a chwyno a gwneud popeth yn anodd iddi.

Ond gwyddai Fran yn union beth y byddai’n ei wneud petai’n dod yn Ganghellor. Byddai’n gwneud yn siŵr fod merched yn cael eu talu am eu llafur. Y gwarchod plant; y cadw tŷ; y coginio; y trefnu; yr holl olchi trôns budron a sanau drewllyd. Mi fyddan nhw’n cael pensiwn, hefyd, a thâl gwyliau, ac adran Adnoddau Dynol os oedd eu bosys nhw’n trio’u gweithio nhw’n rhy galed.

”Sa jans am banad?’ galwodd Gwern o’r ystafell fyw, ond dal i dendio’r swper wnaeth Fran, ei meddwl ar goll yn y stêm.