Cwis Mawr y Penwythnos

Faint ydych chi’n ei gofio am straeon mawr yr wythnos?

Bethan Lloyd
gan Bethan Lloyd

Dyma gwis mawr y penwythnos, sy’n edrych yn ôl ar rai o’r straeon mawr yn ystod yr wythnos a fu… Faint ydych chi’n ei gofio am y straeon?

 

 

 

 

 

 

 

 

Cwestiwn 1

Mae Eisteddfod yr Urdd wedi cyhoeddi y bydd yn mynd i ba ddinas yn 2027 – a hynny am y tro cyntaf erioed?


Cwestiwn 2
Comisiwn y Senedd

Pwy oedd wedi dychwelyd i Gabinet Llywodraeth Cymru yr wythnos hon fel yr Ysgrifennydd Iechyd newydd?


Cwestiwn 3

Fe enillodd yr actor Toby Jones wobr am y perfformiad drama gorau yn y Gwobrau Teledu Cenedlaethol am ei ran yn y ddrama Mr Bates vs The Post Office. Pwy oedd o’n ei bortreadu yn y ddrama?


Cwestiwn 4
Llywodraeth Cymru

Fe glywodd gweithwyr yn y sector cyhoeddus y byddan nhw’n cael codiad cyflog yn 2024-25. Faint o godiad gallan nhw ei ddisgwyl?


Cwestiwn 5
Biniau ailgylchu

Arweinydd a Chabinet pa Gyngor Sir oedd wedi goroesi ymgais i’w symud o’u swyddi'r wythnos hon yn sgil problemau gyda chynllun ailgylchu?


Cwestiwn 6

Mae corff treftadaeth Cymru, Cadw, yn dathlu ei ben-blwydd yn faint oed eleni?