Barcelona - ymosodiad Awst 2017 (Llun: @VIL_Music-Gwifren PA)
Mae pedwar dyn wedi ymddangos gerbron llys yn Sbaen heddiw wedi’u cyhuddo o ladd 15 o bobol yn ymosodiadau brawychol yr wythnos ddiwethaf.

Cafodd y dynion eu harestio a’u cyhuddo o fod â rhan yn nghynllwynio’r ymosodiadau ar Barcelona ddydd Iau (Awst 17) a thref glan môr Cambrils ddydd Gwener, Awst 18.

Mae cyfryngau Sbaen wedi enwi’r dynion – Driss Oukabir, Mohammed Aalla, Salh el Karib a Mohamed Houli Chemal – ond nid yw’r manylion hyn eto wedi’u cadarnhau gan yr heddlu.

Daeth cyhoeddiad ddoe (ddydd Llun) fod heddlu Sbaen wedi saethu dyn arall yn farw, sef Younes Abouyaaqoub, 22 oed, a bod ganddyn nhw dystiolaeth i brofi iddo yrru’r cerbyd a darodd i mewn i’r dorf yn Las Ramblas, Barcelona gan ladd 13 o bobol.

Cafodd pump oedd wedi’u hamau i fod yn rhan o’r ymosodiadau eu saethu’n farw gan yr heddlu yn Cambrils lle digwyddodd yr ail ymosodiad.

Mae grŵp y Wladwriaeth Islamaidd wedi hawlio cyfrifoldeb am y ddau ymosodiad.