Arlywydd Syria, Bashar Assad (Agencia Brasil CCA 2.5)
Mae bron i 700 o bobl wedi eu lladd mewn brwydrau mewnol ymysg gwrthryfelwyr yng ngogledd Syria dros y naw diwrnod diwethaf, yn ôl ymgyrchwyr hawliau dynol.

Dyma’r trais mwyaf difrifol rhwng gwrthwynebwyr y llywodraeth a’i gilydd ers i’r gwrthryfel yn erbyn Bashar Assad gychwyn bron i dair blynedd yn ôl.

Mae gwrthdaro cynyddol wedi bod rhwng mudiad sy’n gysylltiedig ag al-Qaida, Islamic State of Iraq and the Levant, ac amrywiaeth o garfannau Islamaidd eraill a rhai eraill mwy cymedrol dros y misoedd diwethaf.

Dywed yr ymgyrchwyr hawliau dynol, Syrian Observatory for Human Rights, fod o leiaf 697 wedi cael eu lladd yn y gwrthdaro diwethaf, gan gynnwys 351 o ymladdwyr o brif ffrwd y gwrthryfelwyr, 246 o garfannau al-Qaida, a 100 o bobl gyffredin.

Mae’r garfan sy’n gysylltiedig ag al-Qaida wedi cythruddo gwrthwynebwyr eraill Assad, trwy ddefnyddio tactegau creulon i weithredu eu dehongliad caeth o gyfraith Islamaidd, a thrwy herwgipio a lladd gwrthwynebwyr.