Mae Rwsia wedi rhybuddio’r Unol Daleithiau y gall ymosodiad milwrol ar sefydliadau atomig Syria arwain at drychineb niwclear, gan alw ar y Cenhedloedd Unedig i baratoi adroddiad brys ar y fath sefyllfa.

Dywedodd llefarydd ar ran Gweinidog Tramor Rwsia, Alexander Lukashevich, y byddai ergyd filwrol ar adweithydd ger Damascus neu adweithyddion eraill yn Syria yn llygru’r rhanbarth ag ymbelydredd gan arwain at ‘ganlyniadau trychinebus.’

Daeth sylwadau Alexander Lukashevich wrth i Rwsia baratoi i gynnal uwchgynhadledd y G20 yn St Petersburg heddiw ac mae disgwyl i’r argyfwng yn Syria gael ei godi yng nghyfarfod Asiantaeth Ryngwladol Ynni Atomig IAEA, yr wythnos nesaf.

Dywedodd Gill Tudor, llefarydd IAEA, bod yr asiantaeth yn barod i ystyried cwestiynau Alexander Lukashevich os yw’r asiantaeth yn derbyn cais swyddogol i wneud hynny gan Rwsia.

Mae Arlywydd yr Unol Daleithiau, Barack Obama, ar ei ffordd i Rwsia i gyfarfod ag arweinwyr eraill ond cyhoeddodd y Tŷ Gwyn na fydd yn cynnal cyfarfod gydag Arlywydd Rwsia, Vladimir Putin ar ei ben ei hun.