Theresa May
Mae’r Ysgrifennydd Cartref Theresa May yn gwneud datganiad brys yn y Senedd ar hyn o bryd ar ôl i’r Blaid Lafur ofyn pam bod milwyr ychwanegol yn cael eu defnyddio fel swyddogion diogelwch yn ystod y Gemau Olympaidd.

Mae’n golygu y bydd 3,500 o filwyr ychwanegol yn ymuno a’r 13,500 sydd eisoes yn  helpu gyda’r trefniadau diogelwch.

Daw hyn yn dilyn pryderon na fydd y cwmni preifat G4S yn gallu darparu digon o staff sydd wedi eu hyfforddi ar gyfer y Gemau.

Dywedodd yr Aelod Seneddol Llafur Yvette Cooper bod y cyhoeddiad “yn shambls arall gan y Swyddfa Gartref.”

Mae milwyr sy’n gwasanaethu gyda’r fyddin yn yr Almaen wedi cael rhybudd y gallen nhw gael eu symud i Lundain o fewn dyddiau.

Mae G4S wedi cael eu talu £300 miliwn ond mae wedi methu sicrhau y bydd yn gallu darparu 10,000 o swyddogion diogelwch yn unol â’r cytundeb a gafodd, yn ôl adroddiadau.

Cafodd Theresa May ei gorfodi i amddiffyn G4S ddydd Llun a dywedodd ei bod yn hyderus y byddai’r cwmni yn llwyddo i ddarparu diogelwch digonol i’r Gemau.

Dywedodd wrth Aelodau Seneddol bod angen gwarchod 100 o wahanol safleoedd yn ystod y Gemau Olympaidd.

Daw’r cyhoeddiad ddyddiau’n unig ar ôl i’r Llywodraeth gyhoeddi y byddai gostyngiad sylweddol ym maint y fyddin.