Mae Aelodau Seneddol y gwrthbleidiau wedi ymateb yn gandryll wedi i Stryd Downing gadarhau y bydd peintio awyren y Prif Weinidog yn goch, glas a gwyn yn costio bron i £1 miliwn.

Mae’r awyren hefyd yn cludo aelodau eraill o’r Cabinet ac aelodau’r teulu brenhinol.

Ar hyn o bryd, mae’r RAF Voyager yn cae ei beintio yng Nghaergrawnt, gyda un ffynhonnell yn dweud bod y dyluniad newydd fel rhywbeth “yn Austin Powers.”

Dywed Stryd Downing y bydd y gwaith yn costio “oddeutu £900,00” ac yn golygu bod yr awyren yn cynrychioli’r Deyrnas Unedig yn well o amgylch y byd.

Wrth feirniadu’r gost, mae arweinydd dros dro y Democratiaid Rhyddfrydol, Ed Davey, wedi ei gymharu’r gyda chost cyffur sy’n cael ei ddefnyddio i drin cleifion coronafeirws.

“Mae’r cyffur dexamethasone sydd o bosib yn gallu achub bywydau pobol sydd â’r coronafeirws, yn costio £5 i bob claf,” meddai ar ei gyfrif Trydar

“Gallai Boris Johnson fod wedi prynu 180,000 dos o’r cyffur, ond yn hytrach mae’n peintio banner ar awyren.”

Tra bod gweinidog cysgodol Llafur, Emma Hardy, wedi dweud: “Os gwelwch yn dda allwn ni gael oedolyn fel Prif Weinidog yn hytrach na phlentyn.”

Mae’r SNP wedi galw’r peth yn “ddefnydd annerbyniol o gyllid cyhoeddus.”