Mae disgwyl i Lywodraeth Prydain ofyn i bobol dros 70 oed ynysu eu hunain am hyd at bedwar mis fel rhan o’r cynllun i fynd i’r afael â coronavirus.

“Dyna’r cynllun gweithredu,” meddai Matt Hancock, Ysgrifennydd Iechyd San Steffan wrth raglen Sophy Ridge on Sunday ar Sky News heddiw (dydd Sul, Mawrth 15).

“Byddwn ni’n ei amlinellu’n fwy manwl pan ddaw’r amser cywir i wneud hynny, oherwydd rydym yn sicr yn gwerthfawrogi ei fod yn ddisgwyliad mawr o ran yr henoed a phobol fregus, ac mae e er eu lles nhw eu hunain.

Mae’n dweud y bydd y cynllun yn cael ei weithredu “yn yr wythnosau i ddod”.

‘Her sylweddol iawn’

Yn ôl Matt Hancock, mae coronavirus yn “her sylweddol iawn” a fydd yn “amharu ar fywydau bron pawb” yng ngwledydd Prydain.

“Mae’r mesurau rydyn ni’n eu cymryd, mae’r mesurau rydyn ni am eu cymryd yn arwyddocaol iawn, iawn a byddan nhw’n amharu ar fywydau bron pawb yn y wlad er mwyn mynd i’r afael â’r firws yma,” meddai.

Yn ôl Matt Hancock, bydd manylion Mesur yn cael ei gyhoeddi ddydd Mawrth (Mawrth 17), a’r Mesur ei hun yn cael ei gyhoeddi’n llawn ddydd Iau (Mawrth 19).

Mae’n dweud mai mesur trawsbleidiol fydd hwn.