David Cameron (Llun: o'i dudalen Facebook)
Theresa May fydd yr ail fenyw yn hanes Prydain i fod yn Brif Weinidog nos Fercher ar ôl i David Cameron wneud ei ymddangosiad olaf yn Nhŷ’r Cyffredin fel arweinydd.

Dywedodd David Cameron heddiw bod ei olynydd yn “gryf a chymwys” wrth iddo gyhoeddi y bydd yn mynd i Balas Buckingham i gynnig ei ymddiswyddiad yn dilyn Cwestiynau’r Prif Weinidog.

Roedd yr Ysgrifennydd Cartref wedi sicrhau ei lle fel arweinydd newydd y Blaid Geidwadol yn dilyn penderfyniad annisgwyl yr ymgeisydd arall yn y ras, Andrea Leadsom i dynnu ei henw yn ôl.

Ychwanegodd y Prif Weinidog ei fod “wrth ei fodd” y bydd Theresa May yn ei olynu yn Downing Street a’i fod yn credu bod Andrea Leadsom “wedi gwneud y penderfyniad cywir.”

Fe fydd David Cameron yn cadeirio ei gyfarfod Cabinet olaf fore dydd Mawrth ac yn cynnal ei sesiwn olaf o Gwestiynau’r Prif Weinidog am hanner dydd ddydd Mercher.

Roedd disgwyl i’r gystadleuaeth am arweinydd y blaid Geidwadol barhau tan fis Medi ond fe newidiodd hynny ar ôl i Andrea Leadsom gyhoeddi nad oedd ganddi ddigon o gefnogaeth ymhlith ASau “i arwain Llywodraeth gref a sefydlog.”

Fe gyhoeddodd y gweinidog ynni ei bod yn rhoi’r gorau i’w hymgyrch yn fuan ar ôl iddi ymddiheuro i Theresa May am unrhyw loes a achoswyd yn sgil cyfweliad lle’r oedd yn awgrymu ei bod yn fwy cymwys i fod yn Brif Weinidog gan fod ganddi blant. Does dim plant gan Theresa May.

Fe wnaeth hi ddatgan ei “chefnogaeth lawn” i’r Ysgrifennydd Cartref.

Galw am etholiad cyffredinol

Ond mae Theresa May bellach yn wynebu galwadau gan Blaid Cymru, y Blaid Lafur, y Democratiaid Rhyddfrydol, a’r Blaid Werdd  i gynnal etholiad cyffredinol brys yn hytrach nag aros tan 2020.

Mae cydlynydd etholiadol y Blaid Lafur Jon Trickett wedi dweud ei fod yn paratoi’r blaid ar gyfer etholiad cyffredinol, ar yr un diwrnod y mae Angela Eagle wedi dechrau ymgyrch ffurfiol i herio arweinyddiaeth Jeremy Corbyn.

Dywedodd: “Mae’n hanfodol, o ystyried yr ansefydlogrwydd sydd wedi ei achosi gan y bleidlais Brexit, bod y wlad yn cael Prif Weinidog sydd wedi’i ethol yn ddemocrataidd.”

‘Amarch’

Dywedodd Arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood: “Mae’r penodiad disgwyliedig o arweinydd newydd y Ceidwadwyr fel Prif Weinidog yn dangos amarch tuag at ddemocratiaeth.

“Mae’n fater o egwyddor y dylai’r swydd wleidyddol uchaf yn y Deyrnas Gyfunol fod yn un lle mae’r deilydd yn cael ei h/ethol i’r rôl o ganlyniad i etholiad democrataidd teg.

“Dyna pam rwy’n cefnogi etholiad cyn gynted â phosib er mwyn gadael i bobl gael dweud ynglŷn â phwy maen nhw’n credu sydd orau i arwain y wladwriaeth trwy’r amseroedd heriol hyn.”