Cwestiynau brys am bartïon Downing Street

Boris Johnson ddim yn San Steffan i ateb

Huw Bebb
gan Huw Bebb ac Alun Rhys Chivers

Boris Johnson

Mae Prif Weinidog y Deyrnas Unedig dan y lach yn sgil partïon oedd wedi’u cynnal yn Downing Street yn ystod y cyfnod clo.

Mae Llafur wedi cyflwyno cais am gwestiynau brys, ond dydy Boris Johnson ddim yn San Steffan ar gyfer y sesiwn.

Pwysau’n cynyddu ar Boris Johnson i ymddiswyddo

Huw Bebb

“Dyw Boris Johnson ddim yn berson ffit i fod yn brif weinidog”

13:50

Mewn beirniadaeth bellach tuag at Lywodraeth y Deyrnas Unedig, dywedodd Eluned Morgan, Ysgrifennydd Iechyd Cymru, fod yr honiadau “tu hwnt i grediniaeth”.

“Petaem ni’n cofio’n ôl i’r hyn oedd yn digwydd fis Mai 2020, roedd e tua adeg fwyaf difrifol yr holl argyfwng,” meddai.

“Dw i’n meddwl am yr aberthon wnaeth gymaint o bobol yng Nghymru ar y pryd, yr aberth o beidio gallu ffarwelio ag anwyliaid mewn ysbytai, aberthu drwy beidio gallu gadael eu cartrefi a pheidio gallu gweld eu hanwyliaid, methu gallu estyn at y cymorth oedd gymaint o bobol ei angen ar y pryd.

“I gael hynny wedi’i wrthgyferbynnu â sefyllfa lle’r oedd parti’n digwydd yn Downing Street, mae tu hwnt i grediniaeth.”

“Ei gyfrifoldeb ef yw arwain o’r blaen, ac i arwain drwy esiampl,” meddai wedyn, cyn cael gwybod na fyddai Boris Johnson yn San Steffan i ateb cwestiynau.

“Mae gen i ofn ein bod ni wedi gweld eto ei fod wedi methu rhoi atebion clir iawn i gwestiynau syml iawn, a dw i’n meddwl bod y cyhoedd yn haeddu gwybod beth oedd yn digwydd a sut nad yw’n cofio sefyllfa’r oedd e’n rhan ohoni mewn rhyw ffordd, yn ôl y tebyg.

“Dw i’n meddwl ei fod yn tanseilio awdurdod y prif weinidog, ac wedi arwain at sefyllfa lle nad yw’n gallu ymgymryd â’r cyngor rydyn ni wedi bod yn ei dderbyn gan ein hymgynghorwyr o ran cyflwyniad cyfyngiadau newydd, gan fod pobol yn debygol o fod yn llai parod i’w dilyn, [yn sgil] yr esiampl gan brif weinidog sydd ddim yn dilyn ei reolau ei hun.”

13:38

Aeth Angela Rayner yn ei blaen i ddweud mai’r “Prif Weinidog sy’n gosod y safonau”.

“Y diwrnod hwnnw (20 Mai, 2020), clywodd y Tŷ gan y Prif Weinidog ei hun fod 181 o weithwyr y Gwasanaeth Iechyd a 131 o staff gofal cymdeithasol wedi marw,” meddai.

“Gwnaeth llawer o bobol aberth personol enfawr ac mae’r gweinidog (Michael Ellis), a dweud y gwir, yn cuddio y tu ôl i ymchwiliad.

“Nid oes angen ymchwiliad i’r cwestiwn canolog syml heddiw: a wnaeth y Prif Weinidog fynychu’r digwyddiad yng ngardd Stryd Downing ar 20 Mai 2020?

“Nid yw beio hyn ar lond llaw o weision sifil yn ddigon da, y Prif Weinidog sy’n gosod y safonau.

“Os oedd y Prif Weinidog yno, mae’n rhaid ei fod yn gwybod.

“Anfonwyd y gwahoddiad at 100 o staff, llawer ohonynt wedi cael eu penodi ganddo ef ei hun, cafodd y digwyddiad ei drefnu o flaen llaw, felly a oedd y Prif Weinidog yn gwybod am y digwyddiad o flaen llaw ac a roddodd ei ganiatâd iddo gael ei gynnal?

“Ac os felly, a oedd yn credu bod y digwyddiad hwn yn cyd-fynd â’r cyfyngiadau ar y pryd, ac a wnaeth y Prif Weinidog ymgynghori â’r prif swyddog meddygol cyn iddo gael ei gynnal?”

 

13:31

Er nad yw e yn y siambr gan ei fod yn hunanynysu, mae Syr Keir Starmer, arweinydd y Blaid Lafur yn San Steffan, wedi ychwanegu ei lais at y ddadl.

“Nid yn unig roeddech chi’n gwybod am y partïon yn Downing Street, aethoch chi iddyn nhw hefyd.

“Rhowch y gorau i ddweud celwyddau wrth y cyhoedd Prydeinig.

“Mae’n bryd, o’r diwedd, i chi ddweud y gwir.”

13:30

Dywedodd Angela Rayner fod absenoldeb Boris Johnson o Dŷ’r Cyffredin ar gyfer y cwestiwn brys yn “adrodd cyfrolau”.

“Mae’n hynod siomedig, ond ddim yn syndod, nad yw’r Prif Weinidog y gofynnais y cwestiwn hwn iddo yma heddiw er nad oes ganddo unrhyw ymrwymiadau swyddogol,” meddai.

“Rwy’n credu bod ei absenoldeb yn adrodd cyfrolau fel y mae ei gilwenu ar y cyfryngau, mae’r cyhoedd eisoes wedi dod i’w casgliadau eu hunain.

“Mae’n gallu rhedeg ond dyw e ddim yn gallu cuddio.”

 

13:25

Nododd Michael Ellis, ei fod ef a Boris Johnson wedi ymddangos gerbron ASau fis diwethaf i nodi manylion yr ymchwiliad i honiadau o bartïon yn Downing Street a’r Adran Addysg ym mis Tachwedd a Rhagfyr 2020, gan ychwanegu: “Fel y gwneuthum bryd hynny, ymddiheuraf yn ddiamod am y gofid y mae’r honiadau hyn wedi’i achosi.”

Ailadroddodd fod ymchwiliad i’r honiadau yn cael ei gynnal a chadarnhaodd y bydd yr ymchwiliad yn cynnwys y digwyddiadau eraill ar 15 Mai a Mai 2020.

“Bydd yn sefydlu’r ffeithiau ac os daw camweddau i’r amlwg bydd camau disgyblu yn cael eu cymryd,” meddai.

“Fel gyda phob ymchwiliad mewnol, os daw tystiolaeth i’r amlwg o’r hyn a allai fod yn drosedd, byddai’r mater yn cael ei gyfeirio at Heddlu Llundain a gall gwaith Swyddfa’r Cabinet gael ei oedi.”

Ychwanegodd Michael Ellis “na fyddai’n briodol” iddo wneud sylw ar ymchwiliad parhaus.

13:23

Mewn datganiad, mae Jo Stevens, llefarydd materion Cymreig Llafur yn San Steffan, yn dweud bod y partïon yn Downing Street yn “gwawdio” yr holl bobol yng Nghymru oedd wedi dilyn y rheolau “yn aml ar gost bersonol fawr”.

Roedd hi’n sôn am Mark Drakeford, prif weinidog Cymru, yn symud allan o’r cartref teuluol er mwyn gwarchod ei wraig a’i fam-yng-nghyfraith wrth iddyn nhw gysgodi rhag y feirws “tra bod Boris Johnson yn mynychu partïon tŷ ‘dewch â’ch alcohol eich hun'”.

“All y gwrthgyferbyniad mewn arweinyddiaeth ddim bod yn gliriach,” meddai.

“Mae’r gwirionedd a gonestrwydd yn bwysig. Does neb uwchlaw’r gyfraith.

“Mae’n niweidio ymddiriedaeth a hyder yn y llywodraeth os yw’r person sy’n ei harwain a’r bobol o’i gwmpas e’n torri’r gyfraith, yn dweud celwyddau wrthym ac yn chwerthin amdano.

“Mae Cymru’n haeddu cymaint gwell na Boris Johnson.”

 

13:10

Dechreuodd Angela Rayner, dirprwy arweinydd y Blaid Lafur, y cwestiynau brys drwy ddweud: “Dw i’n gofyn i’r Prif Weinidog wneud datganiad ar adroddiadau o ddigwyddiad gafodd ei gynnal yng ngardd Downing Street ar 20 Mai 2020.”

Fodd bynnag, nid oedd y Prif Weinidog yn bresennol yn y siambr, gyda’r Tal-Feistr Cyffredinol Michael Ellis yn ateb ar ei ran – dyw e ddim hyd yn oed yn rhan o’r Cabinet.

Doedd hi ddim yn syndod gweld y mwyafrif helaeth o weinidogion Ceidwadol yn ffoi o’r siambr wrth i’r Llefarydd, Syr Lindsay Hoyle, gyhoeddi’r cwestiynau brys.

Cafodd Michael Ellis ei heclo’n ddi-baid gan ASau’r wrth iddo ateb ei chwestiwn, gydag aelodau’r gwrthbleidiau gweiddi: “Ble mae e?”

Bu’n rhaid i’r Llefarydd gamu i mewn gan ddweud: “Mae’n gwbl amlwg nad y Prif Weinidog yw e, felly does dim angen i ni barhau i ofyn y cwestiwn hwnnw.”

Ychwanegodd ar Mr Ellis: “Mae ganddo’r gwaith caled fel y mae, peidiwch â’i gwneud hi’n anoddach iddo.”