Charles Kennedy
Mae teyrngedau wedi cael eu rhoi o bob rhan o’r sbectrwm gwleidyddol i gyn arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Charles Kennedy, yn dilyn ei farwolaeth sydyn yn 55 oed.

Dywedodd y Prif Weinidog David Cameron ei fod wedi  “tristau’n ofnadwy” o glywed am farwolaeth “gwleidydd talentog sydd wedi marw’n rhy ifanc.”

“Mae hyn yn golled drasig i deulu Charles. Mae fy meddyliau gyda nhw.

“Mae hefyd yn golled drasig i wleidyddiaeth a bywyd cyhoeddus.

“Roedd ganddo ddawn anhygoel. Nid yn aml mewn gwleidyddiaeth mae gan rywun y ddawn, y dalent, yr hiwmor, a’r caredigrwydd ond roedd gan Charles yr holl bethau yna.

“Roedd wedi cyflawni cymaint, mor ifanc ac mae wedi cael ei gymryd oddi wrthym yn rhy fuan.”

Mewn teyrnged iddo heddiw dywedodd Nick Clegg fod Charles Kennedy yn “un o wleidyddion mwyaf talentog ei genhedlaeth” gan son am ei hiwmor a’i garedigrwydd “a oedd wedi cyffwrdd pobl y tu hwnt i’r byd gwleidyddol.”

Mae teyrngedau hefyd wedi cael eu rhoi gan yr Arglwydd Ashdown ar Twitter ac fe ddywedodd Tim Farron AS, sy’n ymgeisydd ar gyfer arweinyddiaeth y blaid, ei fod wedi “torri ei galon” o glywed am farwolaeth Charles Kennedy gan ychwanegu: “Rydym wedi colli cawr heddiw.”

Colli sedd

Roedd Charles Kennedy wedi bod yn Aelod Seneddol am 32 o flynyddoedd ond fe gollodd ei sedd yn etholaeth Ross, Skye a Lochaber i’r SNP fis diwethaf ar ôl eu llwyddiant ysgubol yn yr etholiad cyffredinol.

Cafodd yr heddlu eu galw i’w gartref yn Fort William ddoe ar ôl iddyn nhw gael eu hysbysu gan y gwasanaeth ambiwlans. Mae’n debyg fod ei gorff wedi cael ei ddarganfod yn y tŷ gan ffrind.

Nid yw achos ei farwolaeth yn hysbys ar hyn o bryd ond nid yw’r heddlu yn trin ei farwolaeth fel un amheus.

Mewn datganiad dywedodd ei deulu eu bod yn cyhoeddi ei farwolaeth “gyda thristwch mawr” a’u bod wedi cael “sioc enbyd” yn sgil ei farwolaeth sydyn.

“Roedd Charles yn ddyn arbennig, yn wleidydd talentog ac yn dad cariadus i’w fab ifanc.”

Roedd Charles Kennedy a’i wraig, Sarah, wedi ysgaru yn 2010 ac roedd ganddyn nhw fab 10 oed, Donald.

Bu’n rhaid iddo gymryd saib o’r ymgyrchu etholiadol eleni, ar ôl i’w dad Ian, oedd yn 88 oed, farw ym mis Ebrill.

Dywedodd cyn gyfarwyddwr cyfathrebu’r Blaid Lafur Alastair Campbell bod yna bryderon am Charles Kennedy ar ôl iddo golli ei sedd yn San Steffan.

“Roedden ni i gyd yn bryderus amdano ar ol yr etholiad,” meddai Alastair Campbell, ffrind agos i Charles Kennedy. “Roedd cynrychioli pobl Ross, Skye a Lochaber yn golygu cymaint iddo.”

Roedd Charles Kennedy wedi bod yn arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol rhwng 1999 a mis Ionawr 2006. Fe gamodd o’r swydd ar ôl cyfaddef bod ganddo broblem gydag alcohol.

Fe ddechreuodd ei yrfa gyda phlaid yr SDP, gan ennill sedd Ross, Cromarty a Skye ym 1983 pan oedd yn 24 oed. Fe oedd yr AS ieuengaf ym Mhrydain ar y pryd.

Fe gymrodd yr awenau gan Paddy Ashdown yn 1999 a bu’n hynod feirniadol o’r rhyfel yn Irac yn 2003.

Dywedodd y cyn Brif Weinidog Llafur Tony Blair, ei fod wedi  “tristau’n fawr” o glywed am farwolaeth Charles Kennedy gan ddweud ei fod yn “drasiedi”.

Ychwanegodd dirprwy brif weinidog Tony Blair, yr Arglwydd Prescott: “Cafodd ei brofi’n iawn ynglŷn ag Irac. Fe fydd hanes mor glen iddo ef ag yr oedd ef i eraill. Colled enfawr.”

Teyrngedau o Gymru

Dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Kirsty Williams: “Rydym ni i gyd yn hynod o drist i glywed am y newyddion trychinebus.

“Byddai’n anodd cwrdd â dyn mwy caredig na Charles. Roedd yn ddyn oedd gydag amser i bawb ac yn berson pobl go iawn oedd yn ei wneud yn wahanol i’r gweddill. Bydd wastad yn cael ei gofio am ei bersonoliaeth gynnes a’i ffraethineb.

“Roedd Charles yn gawr yn ein plaid. Yr oedd yn gadarn, yn ddidwyll ac yn angerddol. Fydda’ i byth yn fwy balch o’n plaid na phan wnaeth Charles ein harwain ni yn ein gwrthwynebiad i’r rhyfel yn Irac. Nid oedd hwn yn benderfyniad a gymerwyd yn ysgafn ac eto, roedd Charles yn ddyn o egwyddor ac yn gwneud yr hyn roedd yn gwybod oedd yn iawn. Mae’r blaid yn ddyledus iddo am y swydd a gymerodd, a’r dewrder a ddangosodd.”

Dywedodd cyn AS y Democratiaid Rhyddfrydol Lembit Opik: “Roedd Charles Kennedy yn unigryw – enaid tyner wnaeth fyth wir ymdopi â phwysau ei yrfa garw.”

Wrth ymateb i’r newydd, dywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones: “Newyddion trist iawn am Charles Kennedy. Ofnadwy o drist dros ei deulu. Mae fy meddyliau i gyda nhw.”

Ychwanegodd AS Llafur Casnewydd, Paul Flynn: “Etifeddiaeth Charles Kennedy yw ei lwyddiant yn pontio rhaniadau gwleidyddol plaid ddinistriol gyda gonestrwydd, egwyddor a gwedduster i ennill consensws.”

Fe fydd gan Aelodau Seneddol gyfle i roi teyrnged i Charles Kennedy yn Nhŷ’r Cyffredin mewn sesiwn arbennig ar ol Cwestiynau’r Prif Weinidog yfory, meddai Llefarydd Tŷ’r Cyffredin John Bercow.