David Cameron - ei uwchgynhadledd gynta ers mynd yn ol i rif 10 (PA)
Fe fydd David Cameron yn cyfarfod arweinwyr eraill Ewrop heddiw am y tro cyntaf ers iddo gael ei ailethol fel y Prif Weinidog.

Mae disgwyl iddo ddechrau ar y broses o drafod dyfodol gwledydd Prydain o fewn yr Undeb Ewropeaidd yn ystod y cyfarfod ym mhrifddinas Latvia, Riga.

Dywedodd y Prif Weinidog ei fod yn disgwyl y bydd trafodaethau ar ddyfodol yr Undeb nawr yn dechrau “o ddifrif”.

Bwriad David Cameron yw ail drafod perthynas y Deyrnas Unedig ag Ewrop, cyn cynnal refferendwm erbyn diwedd 2017 yn gofyn i bobol gwledydd Prydain a ydyn nhw am aros yn yr Undeb Ewropeaidd.

Ddim ar yr agenda

Dyw dyfodol yr Undeb Ewropeaidd a lle’r Deyrnas Unedig ynddi ddim ar agenda swyddogol y gynhadledd yn Riga – y prif bwnc yw perthynas Ewrop â gwledydd oedd gynt yn rhan o’r bloc Sofietaidd.

Ond fe fynnodd David Cameron y byddai’n cymryd y cyfle i godi’r mater gyda rhai o’r arweinwyr eraill y tu allan i’r prif gyfarfodydd.

“Heddiw fe fyddaf yn dechrau trafodaethau o ddifrif gyda fy nghyd-arweinwyr ynglŷn â diwygio’r Undeb Ewropeaidd ac ail drafod lle’r Deyrnas Unedig ynddi,” meddai’r Prif Weinidog.

“Fydd y trafodaethau yma ddim yn hawdd. Fyddan nhw ddim yn gyflym. Bydd gwahanol safbwyntiau ac anghytuno ar hyd y daith.

“Ond wrth weithio gyda’n gilydd yn yr ysbryd iawn a glynu wrtho, rydw i’n credu bod modd canfod atebion a fydd yn lleddfu pryderon pobol Prydain a gwella’r Undeb Ewropeaidd.”

Ddim cyn 2017?

Does dim arwydd eto bod David Cameron yn awyddus i gynnal y refferendwm ar aelodaeth Prydain o’r Undeb Ewropeaidd cyn 2017, sef ei gynllun gwreiddiol.

Mae UKIP ymysg y rheiny sydd wedi galw am bleidlais mor fuan â phosib ar y mater, gydag arweinydd y blaid yng Nghymru Nathan Gill yn awgrymu y galli ddigwydd yr un pryd ag etholiadau’r Cynulliad yn 2016.

Ond mae’r Prif Weinidog yn awyddus i gynnal y trafodaethau hynny ag arweinwyr Ewrop cyn cynnal y refferendwm, er bod gweinidog cyllid yr Almaen Wolfgang Schauble wedi awgrymu ei bod hi’n “annhebygol” y bydd y trafodaethau hynny wedi eu cwblhau erbyn 2017.

Galw am fito i Gymru

Mae arweinwyr gwleidyddol gan gynnwys Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, Leanne Wood o Blaid Cymru a Nicola Sturgeon o’r SNP hefyd wedi galw ar David Cameron i sicrhau na fyddai Lloegr yn llusgo gweddill Prydain allan o Ewrop mewn refferendwm.

Yn ôl arweinwyr y ddwy blaid genedlaethol, ddylai Prydain ddim gadael yr UE oni bai bod pob un o’i phedair gwlad wedi pleidleisio o blaid hynny.

Ar y rhaglen Dan yr Wyneb yr wythnos hon, fe ddywedodd Carwyn Jones y byddai’n cefnogi cynnal refferendwm annibyniaeth yn yr Alban, pe bai’r Deyrnas Unedig yn gadael yr Undeb heb gytundeb yr Albanwyr.