Tristram Hunt
Mae llefarydd addysg Llafur, Tristram Hunt, wedi dweud na fydd yn ceisio am arweinyddiaeth y  blaid ac mae wedi rhoi ei gefnogaeth i Liz Kendall.

Mewn araith yn Llundain fe gyfaddefodd Tristram Hunt ei fod wedi methu sicrhau cefnogaeth 35 o ASau Llafur sydd eu hangen i fod yn ymgeisydd.

Dywedodd: “Wrth geisio casglu’r enwau sydd eu hangen arna’i mae yna risg y byddaf yn cyfyngu ar ddewis y blaid.

“Nid yw hynny’n risg rwy’n fodlon ei gymryd. Yn hytrach, rwy’n cynnig fy nghefnogaeth i Liz Kendall.”

Hyd yn hyn mae pedwar AS wedi cyhoeddi eu bod am ymgeisio am yr arweinyddiaeth – Andy Burnham, Yvette Cooper, Mary Creagh a Liz Kendall.

Yn ei araith dywedodd Tristram Hunt bod yn rhaid i Lafur adennill rhannau helaeth o dde Lloegr os ydy’r blaid am ddod i rym unwaith eto.