Tim Farron
Mae Tim Farron wedi cyhoeddi ei fod am geisio am arweinyddiaeth y Democratiaid Rhyddfrydol.

Dywedodd cyn lywydd y blaid, Tim Farron wrth raglen Today ar BBC Radio 4 bod “cannoedd ar gannoedd o aelodau” wedi bod yn ei annog i sefyll a’i fod wedi penderfynu ymuno yn y ras “er mwyn achub y blaid.”

Fe fydd yn ymuno a’r cyn weinidog iechyd Norman Lamb sydd hefyd wedi cyhoeddi ei fod yn ymgeisio am arweinyddiaeth y blaid i olynu Nick Clegg.

Fe ymddiswyddodd Clegg yn dilyn noson drychinebus i’w blaid yn yr etholiad cyffredinol, gan adael y Democratiaid Rhyddfrydol gyda dim ond wyth AS yn San Steffan.

Mae disgwyl i’r arweinydd newydd gael ei gyhoeddi ar 16 Gorffennaf.

Mae Tim Farron wedi cael cefnogaeth Kirsty Williams, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru a Willie Rennie yn yr Alban.

Llafur

Yn y cyfamser mae Yvette Cooper ac Andy Burnham wedi ymuno yn y ras am arweinyddiaeth y Blaid Lafur.

Mae Liz Kendall a Chuka Umunna eisoes wedi cyhoeddi eu bod am ymgeisio i olynu Ed Miliband.

Bydd yr arweinydd newydd yn cael ei gyhoeddi ar 12 Medi cyn cynhadledd flynyddol y Blaid Lafur.

Mae disgwyl i Tristram Hunt hefyd gyhoeddi ei fod am ymuno a’r ras.

Ond dywedodd  Guto Harri, cyfarwyddwr cyfathrebu News UK, ar raglen Dylan Jones y bore ma ei fod yn synnu nad oedd unrhyw ymgeiswyr o Gymru yn ceisio am arweinyddiaeth Llafur, “o ystyried mai Cymru yw cadarnle’r blaid.”