Fe fydd ymchwiliad cynhwysfawr i ddarganfod sut y cafodd cleifion waed wedi’i lygru gyda Hepatitis C a HIV yn cael ei gyhoeddi heddiw.

Roedd cannoedd o bobl yn yr Alban, y rhan fwyaf ohonyn nhw yn gleifion oedd yn dioddef o hemoffilia, wedi derbyn gwaed oedd wedi’i lygru gan y Gwasanaeth Iechyd (GIG) yn y 1970au a’r 1980au.

Yn dilyn galwadau gan grwpiau ymgyrchu, cafodd ymchwiliad cyhoeddus annibynnol ei sefydlu gan Lywodraeth yr Alban i ddarganfod beth aeth o’i le a pha wersi gellir eu dysgu.