Etholiad Cyffredinol 2024 – y canlyniadau

Yr ymateb o Gymru a thu hwnt wrth gyfrif pleidleisiau etholiad San Steffan

Croeso i Blog Byw Etholiad Cyffredinol 2024 golwg360.

Byddwn ni’n dod â’r diweddaraf i chi ar ôl i’r gorsafoedd pleidleisio gau, gan gynnwys canlyniadau, y diweddaraf o rai o’r canolfannau cyfrif, a’r holl ymateb o bob cwr o Gymru a thu hwnt.

Gydol nos Iau ac oriau mân fore Gwener, bydd criw o ohebwyr, golygyddion, colofnwyr a sylwebwyr yn dod â phigion o bob cyfeiriad ynghyd yma, ac yn cadw golwg ar y sefyllfa yng Nghymru a thu hwnt yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Yn ogystal â golygyddion a gohebwyr golwg360, bydd yr academyddion Dr Huw Lewis (Prifysgol Aberystwyth) a Dr Edward Jones (Prifysgol Bangor), colofnwyr golwg360 Huw Prys Jones a Dylan Wyn Williams, sylfaenydd Golwg Dylan Iorwerth, y sylwebydd Elin Roberts, y colofnydd ac awdur Jason Morgan, a mwy yn cynnig dadansoddiadau a sylwebaeth hefyd. A bydd ambell un mewn etholaethau ledled Cymru wrth i ni agosáu at gyhoeddi’r canlyniadau.

Prif benawdau’r etholiad:

  • Llafur wedi ennill mwyafrif yn yr Etholiad Cyffredinol, Keir Stamer ar ei ffordd i Rif 10.
  • Y darlun llawn yng Nghymru – Llafur ar 27 sedd, Plaid Cymru â phedair a’r Democratiaid Rhyddfrydol gydag un.
  • Plaid Cymru wedi cipio Ynys Môn a Chaerfyrddin, a dal gafael ar Ddwyfor Meirionnydd a Cheredigion Preseli.
  • Alun Cairns o’r Ceidwadwyr yn colli sedd Bro Morgannwg i Kanishka Narayan o Lafur
  • Llafur gydag Andrew Ranger yn cipio etholaeth Wrecsam gan Sarah Atherton o’r Ceidwadwyr
  • Canlyniad olaf Cymru – Y Ceidwadwr David TC Davies yn colli’i sedd i Lafur yn Sir Fynwy.
  • Y Democratiaid Rhyddfrydol yn cipio Aberhonddu, Maesyfed a Chwm Tawe gan y Ceidwadwyr. 

Canlyniadau llawn etholaethau unigol Cymru ar waelod ein tudalen Etholiad.

22:11

Hyn gan Rhys Owen am y pôl ymadael gafodd ei gyhoeddi toc ar ôl 10 o’r gloch:

“Er fod yr arolwg ddim yn derfynol, hwn yw’r syniad cyntaf rydym yn ei gael o’r canlyniad terfynol ar ôl i’r amser i bleidleisio ddod i ben.

“Mae’r arolwg yn cael ei gomisiynu gan Sky News, y BBC ac ITV News, ac yn cael ei arwain gan yr Athro Syr John Curtice o Brifysgol Strathclyde a chwmni IPSOS.

“Os ydi’r arolwg yn gywir, bydd y Ceidwadwyr yn dychwelyd eu nifer lleiaf o aelodau seneddol i San Steffan ers yr 1830au.

“I Lafur, er raddfa’r canlyniadau sy’n cael eu rhagfynegi, mae’r nifer yn is na’r 418 enillon nhw yn 1997.”

22:08

s4c

Eluned Morgan (Llafur) hapus iawn o gymharu ä Tomos Dafydd (Ceidwadwyr) mwy syber ar S4C, tra mae Richard Wyn Jones yn dipyn mwy gofalus efo’r “ysgubol” o gofio arolygon barn y gorffennol.

22:03

Mae Rachel Reeves, y Canghellor newydd tebygol, wedi addo y bydd Llafur yn “embrace securonomics”, ac mae wedi dweud, “No democratic government can be content with a lack of decent work, falling wages and the dimming of people’s hope for a better life”. Mae Reeves hefyd wedi galw am “fundamental course correction” pan ddaw hi’n fater o lunio polisi economaidd newydd.

22:03

Fe allai buddugoliaeth ysgubol i Lafur baratoi’r ffordd ar gyfer buddsoddiad ym Mhrydain ar ôl blynyddoedd o ansicrwydd gwleidyddol ac economaidd ers refferendwm Brexit 2016 o dan y Torïaid, a oedd wedi cymylu’r rhagolygon i fuddsoddwyr rhyngwladol. Mae economi’r Deyrnas Unedig wedi bod yn ei chael hi’n anodd ers 2019. Roedd Cynnyrch Mewnwladol Crynswyth (GDP) y Deyrnas Unedig yn Chwarter 1 2024 1.7% yn uwch na’i lefel cyn-pandemig yn Chwarter 4 2019. Mae hyn yn cymharu â 3.4% i’r UE ac 8.7% i’r US dros yr un cyfnod.

22:02

“Mae mwyafrif mawr i Lafur yn ymddangos yn fwy a fwy tebygol a gallai ddod â chyfnod o sefydlogrwydd i’r economi,” medd Dr Edward Jones, economegydd a darlithydd ym Mhrifysgol Bangor.

“Byddai hynny’n rhywbeth i’w groesawu i wlad sy’n cael ei harwain gan ei thrydydd prif weinidog ers yr etholiad cyffredinol diwethaf ac sy’n dal i gael trafferth gwella’r creithiau economaidd a adawyd gan Brexit.”

22:02

Mae’r pôl ymadael gan IPSOS yn awgrymu’r canlyniad canlynol:

Llafur 410 sedd

Ceidwadwyr 131 sedd

Democratiaid Rhyddfrydol 61 sedd

Reform 13 sedd

SNP 10 sedd

Plaid Cymru 4 sedd

Y Blaid Werdd 2 sedd

Eraill 19 sedd

22:01

Mae mwyafrif mawr i Lafur yn ymddangos yn fwy a fwy tebygol a gallai ddod â chyfnod o sefydlogrwydd i’r economi. Byddai hynny’n rhywbeth i’w groesawu i wlad sy’n cael ei harwain gan ei thrydydd prif weinidog ers yr etholiad cyffredinol diwethaf ac sy’n dal i gael trafferth gwella’r creithiau economaidd a adawyd gan Brexit. 

Edward Jones

22:00

Dyna ni! Mae’r cyfnod pleidleisio wedi dod i ben.

21:50

Wrth aros am y canlyniadau, edrychwch yn ôl dros ein blog byw yn ystod y dydd:

Etholiad Cyffredinol 2024 – y pleidleisio

Golwg yn ôl ar ddigwyddiadau diwrnod yr etholiad