Etholiad Cyffredinol 2024 – y canlyniadau

Yr ymateb o Gymru a thu hwnt wrth gyfrif pleidleisiau etholiad San Steffan

Croeso i Blog Byw Etholiad Cyffredinol 2024 golwg360.

Byddwn ni’n dod â’r diweddaraf i chi ar ôl i’r gorsafoedd pleidleisio gau, gan gynnwys canlyniadau, y diweddaraf o rai o’r canolfannau cyfrif, a’r holl ymateb o bob cwr o Gymru a thu hwnt.

Gydol nos Iau ac oriau mân fore Gwener, bydd criw o ohebwyr, golygyddion, colofnwyr a sylwebwyr yn dod â phigion o bob cyfeiriad ynghyd yma, ac yn cadw golwg ar y sefyllfa yng Nghymru a thu hwnt yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Yn ogystal â golygyddion a gohebwyr golwg360, bydd yr academyddion Dr Huw Lewis (Prifysgol Aberystwyth) a Dr Edward Jones (Prifysgol Bangor), colofnwyr golwg360 Huw Prys Jones a Dylan Wyn Williams, sylfaenydd Golwg Dylan Iorwerth, y sylwebydd Elin Roberts, y colofnydd ac awdur Jason Morgan, a mwy yn cynnig dadansoddiadau a sylwebaeth hefyd. A bydd ambell un mewn etholaethau ledled Cymru wrth i ni agosáu at gyhoeddi’r canlyniadau.

Prif benawdau’r etholiad:

  • Llafur wedi ennill mwyafrif yn yr Etholiad Cyffredinol, Keir Stamer ar ei ffordd i Rif 10.
  • Y darlun llawn yng Nghymru – Llafur ar 27 sedd, Plaid Cymru â phedair a’r Democratiaid Rhyddfrydol gydag un.
  • Plaid Cymru wedi cipio Ynys Môn a Chaerfyrddin, a dal gafael ar Ddwyfor Meirionnydd a Cheredigion Preseli.
  • Alun Cairns o’r Ceidwadwyr yn colli sedd Bro Morgannwg i Kanishka Narayan o Lafur
  • Llafur gydag Andrew Ranger yn cipio etholaeth Wrecsam gan Sarah Atherton o’r Ceidwadwyr
  • Canlyniad olaf Cymru – Y Ceidwadwr David TC Davies yn colli’i sedd i Lafur yn Sir Fynwy.
  • Y Democratiaid Rhyddfrydol yn cipio Aberhonddu, Maesyfed a Chwm Tawe gan y Ceidwadwyr. 

Canlyniadau llawn etholaethau unigol Cymru ar waelod ein tudalen Etholiad.

15:23

Dydyn ni ddim yn disgwyl y canlyniad llawn heddiw, gan fod Inverness, Skye a West Ross-shire yn yr Alban yn mynd i ail-gyfrif fory (Gorffennaf 6). Mae un etholaeth arall yn ne-ddwyrain Lloegr, South Basildson a East Thurrock, yn cyfrif am y trydydd tro hefyd.

Ond oni bai am y ddwy sedd hynny, dyma’r canlyniadau fesul plaid: 

Llafur: 412 sedd

Y Ceidwadwyr: 121 sedd

Y Democratiaid Rhyddfrydol: 71 sedd

Yr SNP: 9 sedd

Sinn Fein: 7 sedd

Annibynnol: 6 sedd

DUP: 5 sedd

Plaid Cymru: 4 sedd

Reform: 4 sedd

Y Blaid Werdd: 4 sedd

Social Democratic & Labour Party: 2 sedd

Alliance Party: 1 sedd

Plaid Unoliaethol Ulster: 1 sedd

Traditional Unionist Voice: 1 sedd

14:59

Mae Aelodau Seneddol Llafur wrthi’n mynd mewn i Rif 10, a Keir Starmer wrthi’n penodi’i Gabinet, mae’n debyg.

Rachel Reeves, John Healey, Pat McFadden, David Lammy ac Angela Rayner yw rhai o’r enwau sydd wedi mynd mewn yn barod.

14:52

Mae Nigel Farage wedi bod yn cael ei heclo yn ystod cynhadledd Reform.

Fe wnaeth llond llaw o brotestwyr, tua chwech neu saith o bobol, dorri ar draws y gynhadledd, a chael eu hebrwng allan o’r digwyddiad yn Llundain.

Wrth iddo gael ei darfu, bu arweinydd Reform yn gweiddi “Boring! Boring!” ac ychwanegodd ei fod yn ei baratoi at San Steffan.

Dywed hefyd bod y pleidleisiau’n cael eu cyfrif am y trydydd tro yn South Basildon and East Thurrock, a bod yr ymgeisydd Reform yno ar y blaen o 120 pleidlais yn ystod y cyfrif cyntaf.

13:48

Mae Andrew RT Davies, Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, wedi dymuno’r gorau i Rishi Sunak a Keir Starmer hefyd.

“Hoffwn ddymuno’r gorau un i Rishi Sunak a’i deulu wrth iddo adael Downing Street, a’r un fath i Keir Starmer with iddo gymryd drosodd fel ein Prif Weinidog,” meddai.

“Mae ein gwlad wych yn haeddu arweinyddiaeth effeithiol, a dw i’n dweud gyda’r diffuantrwydd pennaf fy mod i’n gobeithio y bydd yn llwyddo.

“Mae Prydain yn llwyddo os yw e’n llwyddo.” 

13:28

Vaughan Gething yn sgwrsio gyda Keir Starmer,

Mae Vaughan Gething, Prif Weinidog Cymru, wedi llongyfarch Keir Starmer ar ddod yn Brif Weinidog newydd y Deyrnas Unedig.

Roedd y ddau wedi bod yn pwysleisio y byddai cael dwy lywodraeth Lafur yn San Steffan a Bae Caerdydd yn golygu y bydden nhw’n gallu cydweithio ar un weledigaeth, ac mae Vaughan Gething wedi dweud bod hyn yn “ddechrau cyfnod newydd o bartneriaeth”.

“Mae Llywodraeth Cymru wedi dadlau’n gyson y dylai Llywodraeth y Deyrnas Unedig weithredu i hybu Cymru gryfach mewn Teyrnas Unedig decach,” medd Vaughan Gething.

“Mae mandad Llywodraeth newydd y Deyrnas Unedig yn sail gadarn ar gyfer y newid hwnnw. Gyda dwy lywodraeth yn cydweithio, gallwn helpu mwy o bobl i gynllunio dyfodol sicr ac uchelgeisiol yng Nghymru.

“Rwy’n edrych ymlaen at sefydlu partneriaeth newydd gyda Llywodraeth newydd y DU cyn gynted â phosibl, gyda pharch at ein gilydd ac ymdeimlad o bwrpas cyffredin.

“Gyda ffocws ar dwf economaidd a dull newydd sy’n cefnogi potensial twf gwyrdd Cymru, gallwn ddatgloi cyfleoedd mwy uchelgeisiol ledled Cymru.

“Mae ymrwymiadau newydd i atgyweirio ac ymestyn datganoli, ar ôl cyfnod parhaus o ymosodiadau, yn cynnig cyfnod newydd i’r Senedd a Llywodraeth Cymru.”

Er ei bod hi wedi bod yn noson lwyddiannus i Lafur yng Nghymru ar un olwg, yn cipio nifer o seddi gan y Ceidwadwyr, roedd cyfran y bleidlais yn is nag yn 2019 – lawr i 37% o 40.9% yn 2019. Dydy 37% ddim yn gyfran fawr o ystyried eu bod nhw wedi cael llwyddiant cystal yn ennill seddi, ac mae’n arwydd o batrwm noson pan gafodd y pleidiau bychain gyfran fawr o’r bleidlais rhyngddyn nhw dros y Deyrnas Unedig.

12:59

Mae Keir Starmer wedi dod yn Brif Weinidog y Deyrnas Unedig wedi iddo fod yn cyfarfod y Brenin.

Wrth iddo gyrraedd ei gartref newydd yn Rhif 10 gyda’i wraig, roedd torf o gefnogwyr a chyfeillion yno i’w gyfarch, rhai yn chwifio baneri Draig Goch bychain, gan gynnwys Carolyn Harris, cyn Aelod Seneddol Dwyrain Abertawe a ffrind iddo yn Nhŷ’r Cyffredin.

Keir Starmer yw seithfed Prif Weinidog Llafur y Deyrnas Unedig, a’r 58ain gŵr i wneu y swydd.

Dechreuodd ei araith yn Downing Street wrth ddiolch i Rishi Sunak, gan gydnabod ei waith caled a’i ymroddiad.

“Ond nawr mae’r wlad wedi pleidleisio’n bendant dros newid, dros adferiad cenedlaethol.

“Rydyn ni angen symud ymlaen gyda’n gilydd.

“Dim ond gweithredoedd, nid geiriau, all wella’r clwyf, y diffyg ffydd.

“Fedran ni ddechrau drwy gydnabod bod gwasanaeth cyhoeddus yn fraint, ac y dylai eich llywodraeth drin bob un person yn y wlad gyda pharch.”

Wrth siarad â phobol wnaeth ddim pleidleisio dros Lafur ddoe, dywed ei fod am eu gwasanaethu a’i fod am roi’r wlad cyn y blaid.

“Gall gwleidyddiaeth gael ei ddefnyddio er da.”

Dywed bod gwleidyddion wedi troi llygad ddall wrth i bobol wynebu ansicrwydd, ac na fydd hynny’n digwydd y tro hyn.

“Dyw’r gwaith o newid gwlad ddim fel troi swits, mae’r byd yn lle mwy anwadal, ond na amheuwch, mae’r gwaith o newid y wlad yn dechrau’n syth. Na amheuwch, byddwn yn ailadeiladu Prydain a chreu cyfoeth ym mhob cymuned, rhoi’r Gwasanaeth Iechyd yn ôl ar ei draed, diogelu’r ffiniau, creu strydoedd mwy diogel, sicrhau bod pawb yn cael eu trin â pharch yn y gwaith, sicrhau’r cyfle i greu ynni Prydeinig glân fydd yn gostwng eich biliau. A gam wrth gam byddan yn ailadeiladu seilwaith cyfleon drwy gael ysgolion a cholegau o ansawdd byd eang, cartrefi fforddiadwy sy’n gartrefi i weithwyr, sicrwydd y gall teuluoedd dosbarth gweithiol, fel fy un i, adeiladu’u bywyd o’u cwmpas.

“Pe bawn i’n gofyn i chi nawr, a ydych chi’n credu y bydd Prydain yn well ar gyfer eich plant, dw i’n gwybod y byddai gormod ohonoch yn dweud ’na’. Felly bydd fy llywodraeth yn cwffio bob dydd nes eich bod chi’n ateb ‘ie’ eto.

“Mae angen gwneud ein gwaith ar frys, ac rydyn ni’n dechrau heddiw.”

11:12

Mae undeb ffermio NFU Cymru wedi llongyfarch Syr Keir Starmer ar ei fuddugoliaeth ar ddechrau “cyfnod diffiniol arall” i amaethyddiaeth Cymru.

“Fel y gwyddom, ffermio yw un o flociau adeiladu economi Cymru wrth gwrs, gan ategu sector bwyd a diod gwerth £8.1bn sydd yn ei dro yn cyflogi 233,500 o bobol,” meddai Aled Jones, llywydd yr undeb.

“Rwy’n hyderus, gyda chefnogaeth ein gwleidyddion wrth sicrhau’r amgylchedd polisi cywir, y gall NFU Cymru a’i aelodau fanteisio ar y cyfleoedd sydd o’n blaenau a gwireddu potensial y sector.

“Hoffwn ddiolch i’r ASau hynny a roddodd eu gorau i’r etholiad hwn ac sydd wedi ymgysylltu ag NFU Cymru dros y blynyddoedd, rwy’n ddiolchgar iawn am eu cymorth a’u cefnogaeth.”

11:07

Nid Prydain yw’r unig le sydd gan etholiad yr wythnos hon.

Bydd ail rownd etholiadol seneddol Ffrainc yn cael eu cynnal ddydd Sul, Gorffennaf 7.

Elin Roberts, dadansoddwraig geowleidyddiaeth a pholisi cyhoeddus sy’n byw ym Mharis, sydd wedi bod yn cymharu’r sefyllfa ar ddwy ochr y Sianel.

Mae’r ddau etholiad yma yn cynrychioli pethau gwahanol iawn i’r ddwy wlad.

Yn y Deyrnas Unedig, rydym wedi gweld etholiad er mwyn cael gwared â’r 14 mlynedd o lywodraeth y Ceidwadwyr, cyfnod pan welwyd cynnydd mewn tlodi, gostyngiad yn safonau byw, Brexit, sgandalau COVID, ac ati. Mae buddugoliaeth ysgubol y Blaid Lafur yn brawf cryf o hyn yn ogystal â’r ffaith nad oes yr un aelod seneddol o’r Blaid Geidwadwyr na’r Blaid Reform wedi eu hethol yng Nghymru.

Tra bod y Deyrnas Unedig wedi troi tuag at y chwith, mae Ffrainc yn troi tuag at y dde eithafol. Fe wnaeth blaid asgell dde, Rassemblement National ennill 33.1% o’r bleidlais yn rownd gyntaf yr etholiadau seneddol, gyda’r grŵp asgell chwith, Nouveau Front populaire, yn ennill 28% o’r bleidlais a phlaid Macron, Ensemble, yn ennill 20%. Yn yr ail rownd, rydym yn disgwyl y bydd y Rassemblement National yn dod yn fuddugol, ond y cwestiwn yw a fydden nhw’n gallu ffurfio llywodraeth.

Dau etholiad gwahanol ar ddwy ochr y Sianel: Beth fydd hyn yn ei olygu i’r berthynas â Ffrainc?

Elin Roberts

“Mae’r ddau etholiad yma yn cynrychioli pethau gwahanol iawn i’r ddwy wlad”

10:53

“Dw i’n clywed eich dicter”, meddai Rishi Sunak wrth ddweud ei fod yn camu’n ôl fel arweinydd y Blaid Geidwadol…

Mi ddechreuodd ymgyrch etholiadol y Ceidwadwyr yn y glaw tu allan i Rif 10 chwe wythnos yn ôl, ac mae 14 mlynedd y Torïaid yn dod i ben mewn ffordd ddigon tebyg.

Mewn glaw man, mae Rishi Sunak wedi ffarwelio â Downing Street cyn iddo fynd i gynnig ei ymddiswyddiad i’r Brenin.

Yn ogystal â ymddiheuro i’r wlad, mae wedi cadarnhau ei fod yn camu lawr o’r rôl fel arweinydd y Blaid Geidwadol. Ni fydd yn gadael tan y bydd rhywun i’w olynu.

“I’r wlad, hoffwn ddweud yn gyntaf fy mod i’n sori. Dw i wedi rhoi popeth i’r swydd,” meddai.

“Ond rydych chi wedi rhoi arwydd clir, rhaid i lywodraeth y Deyrnas Unedig newid, a’ch barn chi yw’r unig un sy’n bwysig.

“Dw i wedi clywed eich dicted, eich siom, a dw i’n cymryd cyfrifoldeb am y golled hon.”

Ymddiheurodd hefyd i’w gydweithwyr, a diolch am waith caled cyn-Aelodau Seneddol.

“Pan sefais yma am y tro cyntaf fel eich Prif Weinidog, dywedais mai fy mhrif swydd oedd dod â sefydlogrwydd i’r economi… mae chwyddiant yn ôl ar y targed, morgeisi yn gostwng ac mae’r economi yn tyfu eto.”

Dymudodd y gorau i Keir Starmer fel Prif Weinidog hefyd.

“Yn y swydd hon, ei lwyddiannau ef fydd llwyddiannau’r wlad, a dw i’n dymuno’n dda iddo ef a’i deulu,” meddai.

“Mae heddiw’n ddiwrnod anodd ar ddiwedd nifer o ddiwrnodau anodd, ond dw i’n gadael y swydd yn freintiedig o fod wedi bod yn Brif Weinidog i chi.”

10:47

Mae Rishi Sunak wedi cadarnhau y bydd yn camu i lawr fel arweinydd y blaid Geidwadol.

“Dw i wedi clywed eich dicter a siom ac rwy’n cymryd cyfrifoldeb am y golled hon,” meddai o flaen Rhif 10 Downing Street.

Bydd yn gwneud ei ffordd at Frenin Lloegr i ymddiswyddo’n ffurfiol yn fuan.